Arestio dros 20 o bobl ar amheuaeth o droseddau terfysgol yn dilyn protest yn Llundain
Mae mwy nag 20 o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau terfysgol ar ôl i brotestwyr ymgynnull yng nghanol Llundain i ddangos cefnogaeth i grŵp Palestine Action, sydd bellach wedi'i wahardd.
Dywedodd Heddlu'r Met: “Mae swyddogion wedi arestio mwy nag 20 o bobl ar amheuaeth o droseddau o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000.
“Maen nhw wedi eu cadw yn y ddalfa.
“Mae Palestine Action yn grŵp gwaharddedig a bydd swyddogion yn gweithredu lle cyflawnir troseddau.”
Fe gollodd Palestine Action her yn y Llys Apêl yn hwyr nos Wener i geisio atal y grŵp protest rhag cael ei wahardd.
Roedd hyn lai na dwy awr cyn i'r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym am hanner nos.
Mae'r dynodiad fel grŵp terfysgol yn golygu bod aelodaeth o, neu gefnogaeth i, Palestine Action yn drosedd y gellir ei chosbi hyd at 14 mlynedd yn y carchar.