
'Braint i'r ardal': Mainc er cof am Dewi Pws y tu allan i fragdy ym Mhen Llŷn
Mae mainc er cof am Dewi ‘Pws’ Morris wedi cael ei dadorchuddio y tu allan i fragdy ym Mhen Llŷn.
Bu farw’r cerddor a'r actor oedd yn wreiddiol o ardal Abertawe yn 76 oed ym mis Awst y llynedd ar ôl cyfnod o salwch.
Bron i flwyddyn yn ddiweddarach, mae mainc bren wedi cael ei chreu er cof amdano y tu allan i fragdy Cwrw Llŷn yn Nefyn.
Roedd ef a'i wraig Rhiannon wedi ymgartrefu yn Nefyn yn y blynyddoedd diweddar yn dilyn cyfnodau yn byw yn Nhresaith ac Y Felinheli.
Mae plac ar y fainc yn cynnwys geiriau o gân Mawredd Mawr gan y grŵp Tebot Piws, lle'r oedd Dewi Pws yn arfer bod yn brif leisydd.
Mae'n darllen: "Mawredd mawr, 'steddwch i lawr, mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn."

'Braint'
Yn ôl rheolwr Cwrw Llŷn, Iwan ap Llyfnwy, mae hi'n "fraint" cael mainc er cof am Dewi Pws.
"Mi oedd hi'n fraint i'r ardal i gyd bod Dewi wedi bod yn ein plith ni am flynyddoedd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mi oedd o'n ffyddlon ac yn ffrindiau efo criw ohona ni yn y bragdy, felly mae'n meddwl llawer i bawb."
Fe aeth ymlaen i ddweud na fydd cyfraniad Dewi Pws i'r ardal byth yn angof.
"Mae'r ardal i gyd yn gwerthfawrogi be' oedd o'n neud i gynnal digwyddiadau," meddai.
"Rwbath oedd rywun angen, os oedd isho fo helpu neu ddeud rhyw air neu ryw berfformiad, mi oedd Dewi bob amser yn fwy na hapus i neud.
"Mi oedd o'n dod i'r bragdy yn aml ac yn cymysgu efo pobl oedd wedi symud i'r ardal ac yn eu hebrwng nhw i ddysgu Cymraeg.
"Wedyn mae 'na griw sydd wedi gwneud hynny o'i herwydd o – bydd ei gyfraniad i'r ardal byth yn angof."
Ychwanegodd y byddai'n hoffi "diolch o galon" i'r saer coed Lewis Jones am greu'r fainc.
"Mae hi'n fraint cael mainc er cof am Dewi," meddai.
Lluniau: Cwrw Llŷn