Dyn yn osgoi carchar ar ôl anafu pedwar person drwy yrru mewn i faes gwersylla
Mae dyn ifanc 19 oed wedi derbyn dedfryd o garchar wedi ei ohirio ar ôl achosi anafiadau difrifol i bedwar person drwy yrru'n beryglus, tair wythnos wedi iddo basio ei brawf gyrru.
Fe adawodd car Jack Hale, sydd nawr yn 18 oed, y ffordd A487 Niwgwl yn Sir Benfro cyn dod i stop mewn maes gwersylla, ar 12 Awst 2023.
Collodd rheolaeth o'r cerbyd, gan droi ben i waered a rholio tuag at y maes gwersylla.
Cafodd e'i ddedfrydu i ugain mis mewn canolfan i droseddwyr ifanc wedi'i ohirio am 18 mis yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Plediodd yn euog i bedwar cyhuddiad o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus ar ddydd Mawrth, 17 Mehefin 2025.
Hefyd, fe gafodd waharddiad gyrru am ddwy flynedd gyda gofyniad i basio prawf gyrru estynedig a chwblhau 250 awr o waith di-dâl.
Dywedodd y Barnwr Anrhydeddus Huw Rees fod cyflymder gyrru Hale yn sylweddol ormodol.
Ychwanegodd Rhingyll yr Heddlu Sara John: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trawmatig iawn i’r holl ddioddefwyr ac mae’n parhau i gael effaith ddofn arnyn nhw.
"Ein gobaith yw bod y ddedfryd heddiw yn dod â rhywfaint o'r pryder i ben i’r rhai a effeithiwyd, ac yn atgoffa pawb o ganlyniadau gyrru’n beryglus.”