Cyn AS ac aelod o’r Senedd yn y llys wedi'u cyhuddo o droseddau gamblo yn ymwneud â'r etholiad

Craig Williams a Russell George gan PA

Mae cyn AS Ceidwadol ac aelod o’r Senedd wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o dwyllo wrth gamblo ar ddyddiad etholiad cyffredinol 2024.

Mae Craig Williams, 39, a oedd yn AS Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn a Gogledd Caerdydd, wedi ei gyhuddo o dwyllo wrth gamblo yn ogystal â thri chyhuddiad o alluogi neu gynorthwyo eraill i dwyllo.

Roedd Williams, o Lanfair Caereinion, wedi gwasanaethu fel ysgrifennydd preifat seneddol i Rishi Sunak yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog.

Ymysg y diffynyddion eraill mae Russell George, 50, sy’n aelod presennol annibynnol o Senedd Cymru dros Faldwyn, ar ôl i'w chwip gael ei atal gan y Ceidwadwyr ar ôl i'r cyhuddiadau ddod i'r wyneb.

Yno hefyd oedd Thomas James, 38, cyn gyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig sydd bellach wedi ei atal o’r blaid.

Nid yw Williams wedi cyflwyno ei ble, ond mae Mr George a Mr James eisoes wedi pledio’n ddieuog i'r cyhuddiadau.

Bydd y llys yn clywed cais i ddiddymu'r cyhuddiadau ar 19 Ionawr y flwyddyn nesaf.

Oherwydd bod 15 o ddiffynyddion i gyd, bydd dau achos llys yn cael eu cynnal.

Mae'r achos cyntaf wedi'i drefnu ar gyfer 6 Medi 2027, a'r ail ar gyfer 3 Ionawr 2028.

Bydd Mr Williams yn ymddangos yn yr achos yn 2028.

Cyhuddiadau o dwyll

Daw'r cyhuddiadau ar ôl i ymgyrch gael ei lansio i ymchwilio i hapchwarae gan weithwyr y Blaid Geidwadol yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol 2024.

Yn erlyn ar ran y Comisiwn Gamblo, dywedodd Sam Stein KC: "Roedd Ymgyrch Scott yn ymchwiliad a lansiwyd gan y comisiwn gamblo i wleidyddion a gweithwyr y Blaid Geidwadol, a chyn-swyddog heddlu... a oedd wedi gosod betiau ar ddyddiad etholiad cyffredinol 2024.

"Roedden nhw wedi elwa ar wybodaeth gyfrinachol neu fewnol ynghylch pryd y gallai'r dyddiad hwnnw fod.

"Mae'r erlyniad yn dweud bod gosod betiau gyda gwybodaeth fewnol yn drosedd, sef twyllo."

Mae’r erlyniad wedi honni bod y 15 diffynnydd wedi gosod betiau yn seiliedig ar wybodaeth gyfrinachol a gafwyd o'r ystafelloedd hynny, neu wedi galluogi eraill i osod betiau trwy basio'r wybodaeth honno ymlaen.

Os byddan nhw'n cael eu dyfarnu'n euog, gallen nhw wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar.

Fe wnaeth 12 o'r 15 o diffynyddion bledio'n ddieuog mewn gwrandawiad blaenorol.

Y diffynyddion eraill wnaeth bledio'n ddieuog oedd Simon Chatfield, 51, o Farnham, Surrey; Amy Hind, 34, o Loughton, Essex; Anthony Hind, 36, o Loughton, Essex; Charlotte Lang, 36; Anthony Lee, 47; Laura Saunders, 37; Iain Makepeace, 47, o Newcastle Upon Tyne; Nick Mason, 51; Paul Place, 53, o Hammersmith, gorllewin Llundain; a James Ward, 40, o Leeds.

Ni wnaeth y cyn-AS Williams ynghyd â Jacob Willmer, 39, o Richmond, Gorllewin Llundain, a'r cyn-swyddog heddlu Jeremy Hunt, 55, o Horne yn Surrey, roi unrhyw arwydd o bledio.

Lluniau: PA Wire

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.