Lluniau anweddus o blant: Dyn o Glynnog Fawr yn y llys
Mae dyn o Wynedd wedi ymddangos yn y llys yng Nghaernarfon i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â chreu a bod a lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Mae Jonathan Hughes-Evans, 39 oed o Lwyn y Ne, Clynnog Fawr yn gwadu pedwar cyhuddiad, gydag un o'r cyhuddiadau yn ymwneud â gwneud lluniau symudol o'r math gwaethaf (Categori A) o blentyn mewn modd rhywiol.
Mae'r cyhuddiadau'n ymestyn yn ôl i fis Ebrill 2024.
Mae Evans hefyd wedi ei gyhuddo o geisio cyfathrebu mewn modd rhywiol gyda phlentyn dan 16 oed na ellir ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol.
Fe siaradodd Evans ddim ond i gadarnhau ei enw, ei oed a'i gyfeiriad yn Llys Ynadon Caernarfon fore Iau.
Fe gafodd yr achos ei gyfeirio i Lys y Goron gan y Barnwr Gwyn Jones, lle fydd Evans yn ymddangos yn y llys yng Nghaernarfon ar 18 Awst.
Cafodd ei ryddhau o'r llys ar fechniaeth di-amod.