Diane Abbott wedi'i gwahardd o'r Blaid Lafur dros sylwadau am hiliaeth

Diane Abbott

Mae’r AS Diane Abbott wedi cael ei gwahardd o’r Blaid Lafur am yr eildro, meddai llefarydd, ar ôl iddi ailadrodd sylwadau am hiliaeth yr oedd wedi ymddiheuro amdanynt yn flaenorol.

Mae hi wedi'i "wahardd yn weinyddol" tra bod y blaid yn ymchwilio.

Yn ôl adroddiadau mae hyn yn golygu bod y chwip yn cael ei wahardd yn awtomatig yn Nhŷ'r Cyffredin ar gyfer AS Hackney North a Stoke Newington.

"Mae Diane Abbott wedi'i gwahardd yn weinyddol o'r Blaid Lafur, tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal," meddai llefarydd ar ran y blaid.

"Ni allwn wneud sylwadau pellach tra bod yr ymchwiliad hwn yn parhau."

Cafodd Ms Abbott ei gwahardd gan y Blaid Lafur yn 2023 ar ôl ysgrifennu llythyr at yr Observer yn cymharu hiliaeth a brofir gan bobl o liw â'r hyn a welir gan grwpiau eraill.

Ymddiheurodd am unrhyw ofid a achoswyd gan y sylwadau, a ddenodd feirniadaeth gan grwpiau Iddewig a Theithwyr, a chafodd ei hail-dderbyn i'r blaid cyn etholiad cyffredinol 2024.

Ond mewn cyfweliad newydd gyda rhaglen Reflections Radio 4 y BBC, dywedodd nad oedd hi'n edrych yn ôl ar y digwyddiad gyda gofid.

“Na, ddim o gwbl,” meddai wrth y BBC.

“Yn amlwg, mae’n rhaid bod gwahaniaeth rhwng hiliaeth sy’n ymwneud â lliw a mathau eraill o hiliaeth, oherwydd gallwch weld Teithiwr neu berson Iddewig yn cerdded i lawr y stryd, dydych chi ddim yn gwybod.

“Dydych chi ddim yn gwybod oni bai eich bod chi’n stopio i siarad â nhw neu eich bod chi mewn cyfarfod â nhw.

“Ond os gwelwch chi berson du yn cerdded i lawr y stryd, rydych chi’n gweld ar unwaith eu bod nhw’n ddu. 

"Maen nhw’n wahanol fathau o hiliaeth.”

Ychwanegodd: “Dw i’n meddwl ei bod hi’n hurt ceisio honni bod hiliaeth sy’n ymwneud â lliw croen yr un fath â mathau eraill o hiliaeth.”

Fe gyhoeddodd Ms Abbott glip o’i chyfweliad gyda’r BBC ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl i newyddion am ei gwaharddiad ddod i’r amlwg. 

Nid yw hi wedi ymateb i gais am sylw.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner ei bod hi wedi’i siomi gan y sylwadau.

Dywedodd:“Does dim lle i wrthsemitiaeth yn y Blaid Lafur, ac yn amlwg mae gan y Blaid Lafur brosesau ar gyfer hynny.”

Ms Abbott yw’r AS benywaidd sydd wedi gwasanaethu hiraf yn Nhŷ’r Cyffredin, ar ôl dod i’r Senedd ym 1987, ac mae’n dal y teitl anrhydeddus Mam y Tŷ.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.