Iola Ynyr yn ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025
Iola Ynyr sydd wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni.
Dywedodd y beirniaid bod ei chyfrol Camu, cyfres o ysgrifau hunangofiannol, yn “ysgytwol”.
Mae’r awdur yn derbyn gwobr o £4,000 am ei hunangofiant “greadigol, grefftus” ynghyd â thlws eiconig wedi’i greu gan Angharad Pearce Jones.
Mae Iola Ynyr yn awdures, dramodwraig, cyfarwyddwraig a hwylusydd gweithdai cyfranogol.
Dywedodd Gwenllian Elis ar ran y panel beirniadu ei fod yn llyfr oedd wedi “llwyddo i’n cynnal o’r llinell gyntaf i’r dudalen olaf”.
“Mae hi’n gyfrol greadigol, grefftus sy’n dilyn taith yr awdur drwy ei bywyd,” meddai.
“Mae ganddi hi feistrolaeth dros yr iaith ac mae’r dweud yn ysgytwol.
“Mae Iola yn dinoethi ei hun yn llwyr wrth drafod ei dibyniaeth alcohol, ond mae o’n daith at wellhad ac yn neges i ni gyd, dim ots faint oed ydan ni, i weld gwerth yn ein hunain.
“Er fod ‘na dywyllwch, er fod ‘na dristwch ma ‘na dynerwch a chariad yn bodoli rhwng y cloria’.”
V + Fo gan Gwenno Gwilym enillodd Wobr Barn y Bobl drwy bleidlais arlein ar wefan Golwg360.
Fe enillodd Carys Davies y wobr Saesneg gyda’i nofel Clear.
Yr enillwyr Cymraeg i gyd
Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2025: Camu, Iola Ynyr (Y Lolfa)
Gwobr Ffeithiol Greadigol: Camu, Iola Ynyr (Y Lolfa)
Gwobr Farddoniaeth: Rhuo ei distawrwydd hi, Meleri Davies (Cyhoeddiadau’r Stamp)
Gwobr Ffuglen: Noddir gan HSJ Accountants: V + Fo, Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc: Swtan a’r Sgodyn Od, Angie Roberts a Dyfan Roberts (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Barn y Bobl Golwg360: V + Fo, Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)
Yr enillwyr Saesneg i gyd
Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2025: Clear, Carys Davies (Granta)
Gwobr Ffeithiol Greadigol: Nightshade Mother: A Disentangling, Gwyneth Lewis (Calon Books)
Gwobr Ffuglen: Clear, Carys Davies (Granta)
Gwobr Farddoniaeth: Girls etc, Rhian Elizabeth (Broken Sleep Books)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc : A History of My Weird, Chloe Heuch (Firefly Press)
Gwobr Barn y Bobl Nation.Cymru: Girls etc, Rhian Elizabeth (Broken Sleep Books)