
Carcharu gyrrwr am achosi marwolaeth merch 'garedig' 15 oed yng Nghaerdydd
Mae dyn o Gaerdydd wedi ei garcharu am achosi marwolaeth merch 15 oed yn dilyn gwrthdrawiad yn y brifddinas yn 2023.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, fe gafodd Christopher West, 42 oed o Drelái, ei ddedfrydu i flwyddyn a phedwar mis yn y carchar am achosi marwolaeth Keely Morgan, 15 oed, trwy yrru’n beryglus ar 1 Mai 2023.
Roedd West, o Drelái, wedi pledio’n euog yn Llys Ynadon Caerdydd ym mis Ebrill o achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal/anystyriol ac achosi marwolaeth trwy yrru heb drwydded/yswiriant.
Clywodd y llys fod West yn gyrru ar hyd Ffordd Trelái wrth i Keely Morgan groesi ar groesfan ddynodedig.
Fe yrrodd West i mewn i’r ferch a fu farw yn y fan er ymdrechion parafeddygon oedd wedi eu galw.

Ar y pryd, dywedodd mam Keely, Sian Morgan, a'u llysdad Liam Coulthard:
“Fel teulu, rydym wedi ein difrodi’n llwyr gan golled sydyn Keely. Mae ein calonnau wedi torri, ac ni wnaethom byth ddychmygu y byddai unrhyw beth fel hyn yn digwydd i ni.
“Roedd gan Keely wên mor brydferth bob amser a fyddai’n goleuo ystafell.
“Roedd hi’n synhwyrol, yn garedig ac ni chafodd unrhyw un air drwg i’w ddweud amdani.
“Mewn cyfnod mor fyr yn y byd hwn, roedd hi wedi cyffwrdd â chymaint o bobl ac roedd ganddi gymaint o gynlluniau sydd bellach wedi’u cymryd i ffwrdd mor greulon."
Llun: Teulu