San Steffan am ddilyn Senedd Cymru ar bleidleisiau i bobl 16 oed

Tŷ'r Cyffredin

Bydd Senedd San Steffan yn dilyn Senedd Cymru a’n caniatáu i bobol bleidleisio yn 16 oed, meddai Llywodraeth y DU ddydd Iau.

Roedd maniffesto'r Blaid Lafur wedi addo gostwng yr oed pleidleisio i 16 oed, fel sydd eisoes yn wir yn etholiadau datganoledig Cymru a’r Alban.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner eu bod nhw hefyd yn bwriadu cyflwyno dulliau adnabod digidol i ganiatáu i bobol bleidleisio.

Mae cynlluniau hefyd i gofrestru pobl i bleidleisio yn ddiofyn.

“Am gyfnod rhy hir mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein democratiaeth wedi’i difrodi ac mae ffydd yn ein sefydliadau wedi dirywio,” meddai.

“Rydym yn cymryd camau i chwalu rhwystrau er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn democratiaeth yn y DU.

“Bydd hynny’n cefnogi ein cynllun ar gyfer newid, a chyflawni ein hymrwymiad maniffesto i roi’r hawl i bobl 16 oed bleidleisio.”

Bydd cynlluniau dydd Iau hefyd yn gweld tynhau’r rheolau ar gyllid gan wahardd “cwmnïau cragen” rhag rhoi arian i bleidiau gwleidyddol.

Bydd y Comisiwn Etholiadol yn cael y pŵer i godi dirwyon o £500,000 ar y rhai sy’n torri’r rheolau newydd ar roddion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.