Snoop Dogg yn un o berchnogion newydd Clwb Pêl-droed Abertawe

Snoop

Mae'r rapiwr byd enwog Snoop Dogg yn un o berchnogion newydd Clwb Pêl-droed Abertawe.

Cyhoeddodd y clwb nos Iau bod Snoop Dogg, sydd yn 53 oed yn gydberchennog, a hynny wedi iddo ymddangos yn ymgyrch farchnata ddiweddaraf Abertawe i hyrwyddo eu crysau cyn y tymor newydd.

Fe gafodd fideo ohono'n cyfarch y cefnogwyr, gan gyhoeddi 'Hail to Wales' - ei rhyddhau, er mawr syndod i lawer o gefnogwyr yr Elyrch.

Daw hynny wedi i gyn-enillydd y Balon d'Or Luka Modric gyhoeddi ei fod yn buddsoddi yn y clwb.

Dywedodd Snoop Dogg bod buddsoddi yn Abertawe yn rhywbeth "arbennig" iddo.

“Mae pawb yn ymwybodol o fy nghariad at bêl-droed, ond mae'n teimlo'n arbennig i mi fy mod i'n symud i fod yn berchen ar ran o glwb Abertawe.

“Fe wnaeth stori'r clwb a'r ardal daro tant gyda mi. Mae hon yn ddinas a chlwb dosbarth gweithiol balch. Mae'n underdog sy'n brathu'n ôl, yn union fel fi.

“Rwy'n falch o fod yn rhan o Abertawe. Rwy'n mynd i wneud popeth o fewn fy ngallu i helpu'r clwb, ac rwy'n edrych ymlaen at ddod i adnabod yr holl gefnogwyr."

Ledled y byd mae Snoop Dogg wedi gwerthu dros 35 miliwn o albymau mewn gyrfa dros 30 o flynyddoedd.

Yn ystod ei fywyd mae Snoop wedi caru pêl-droed ac am gyfnod yn llysgennad gêm gyfrifiadurol FIFA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.