Newyddion S4C

Carcharu dyn am dagu ei gyn-bartner ar wyliau yng Ngwynedd

Sam Tromellen

Mae dyn 29 oed wedi ei garcharu am dagu ei gyn-bartner tra roedd y ddau ar wyliau yng Ngwynedd.

Ymosododd Sam Tromellen o Stryd Berwyn, Llangynog, Croesowallt ar ei bartner tra roedd y pâr ar wyliau yn Aberdyfi, Gwynedd ym mis Hydref y llynedd.

Rhoddodd Tromellen ei fraich o amgylch y dioddefwr a’i thagu wedi iddo ei chyhuddo o fod yn anffyddlon.

Parhaodd y ffrae ar y stryd wedi i’w bartner ffoi o’r adeilad, cyn iddi gael cynnig lloches gan berson lleol.

Wrth i Tromellen adael yr ardal, ciciodd ddrws cyfagos cyn rhwygo ei grys.

Fe gafodd ei arestio oriau mân ddydd Sadwrn, 12 Hydref, wedi’r digwyddiad.

Mewn datganiad wedi'i baratoi, mi wnaeth feio'r digwyddiad ar y dioddefwr, gan honni ei fod wedi ceisio ei stopio rhag ymosod arno.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth o gyfaddef ei fod wedi ei thagu'n fwriadol. Cyfaddefodd hefyd i ddau gyhuddiad o ddifrod troseddol a bod â chanabis yn ei feddiant.

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a thri mis yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, 1 Mai.

Cafodd hefyd orchymyn atal am bum mlynedd er mwyn diogelu'r dioddefwr.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gutun Lake: "Ni fydd trais o unrhyw fath yn erbyn merched a genethod yn cael ei oddef yn ein cymunedau.

"Roedd yr ymosodiad hwn yn brofiad brawychus i'r dioddefwr, yn ystod ei gwyliau yn yr ardal. Mae hi wedi dangos cryn ddewrder yn riportio'r hyn a ddigwyddodd iddi.

"Rydym yn parhau i weithredu ar unrhyw adroddiad o drais yn erbyn merched a genethod, ac ni fyddwn yn stopio yn ein hymdrechion i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.