Newyddion S4C

Dynes wedi dioddef anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad yn y gogledd

Stryd Fawr Yr Wyddgrug

Mae dynes wedi cael ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ar ôl dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn y gogledd.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i wrthdrawiad ar Stryd Fawr yr Wyddgrug am 11:45 fore Gwener.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cerddwr a fan Volkswagen Crafter gwyn y tu allan i dafarn Wetherspoons yn y dref.

Dywedodd yr heddlu bod y ddynes wedi cael ei chludo i'r ysbyty yn Stoke mewn ambiwlans awyr.

Mae'r gyrrwr y fan wedi cael ei arestio ac yn cael ei gadw yn y ddalfa, meddai'r llu.

Roedd y ffordd yn parhau ar gau brynhawn Gwener.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion neu unrhyw un sydd â lluniau cylch cyfyng i gysylltu gyda nhw ar y we neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod C062389.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.