Gyrrwr wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ger Maesyfed
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth wedi i yrrwr farw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A44 ar 1 Mai.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A44, rhwng Maesyfed a Walton, tua 16.00 ddydd Iau, 1 Mai.
Roedd fan Transit Ford wen a lori yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Fe gafodd gyrrwr y fan ei gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae perthnasau agosaf y gyrrwr wedi cael gwybod ac mae swyddogion heddlu hyfforddedig yn eu cefnogi fel teulu.
Cafodd y ffordd ei chau dros nos cyn ei hailagor toc wedi 7.00 ar 2 Mai.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a allai helpu gyda’r ymchwiliad, gan gynnwys unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar adeg y digwyddiad gyda lluniau camera, i roi gwybod iddyn nhw.