Hyfforddwr ceffylau o'r de yn gwadu ymosod ar ddyn
Mae hyfforddwr ceffylau Grand National o dde Cymru wedi gwadu ymosod ar ddyn arall.
Plediodd Richard Evan Rhys Williams yn ddieuog i ddau gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad ac o achosi niwed corfforol difrifol i Martin Dandridge ar 4 Rhagfyr y llynedd yn Llancarfan, Bro Morgannwg.
Siaradodd Williams, 54, o Lancarfan, i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a nodi ei ble yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Dewisodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, ddyddiad ei achos llys ar gyfer 3 Mawrth y flwyddyn nesaf.
Cafodd Williams ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.