Brennan Johnson ‘mor hapus’ ar ôl sgorio i ennill Cynghrair Europa gyda Spurs
Mae ymosodwr Cymru, Brennan Johnson, wedi dweud ei fod “mor hapus” ar ôl sgorio unig gôl y gêm i ennill Cwpan Europa gyda Tottenham Hotspur.
Fe wnaeth ei dîm guro Manchester United 1-0 yn y rownd derfynol yn Bilbao, yn dilyn ei gôl yn hwyr yn yr hanner cyntaf.
Ef yw’r Cymro cyntaf i sgorio yn rownd derfynol Cynghrair Europa ers i Simon Davies wneud i Fulham yn 2010.
Dyma oedd tlws cyntaf y clwb ers 17 o flynyddoedd ac mae hefyd yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.
“Rydw i mor hapus rŵan, a dweud y gwir,” meddai’r Cymro wrth TNT Sports, gan ddathlu wrth wisgo fflag Cymru ar ôl y gêm.
“Dyw’r tymor heb fod yn ddigon da ond does yr un o’r chwaraewyr yn malio am hynny ar hyn o bryd.
“Dyw’r clwb heb ennill tlws ers 17 o flynyddoedd. Dyma mae’n ei olygu. Mae’n golygu cymaint.
“Mae’r cefnogwyr wedi cael amser caled. Rydyn ni’n cael amser caled am beidio ag ennill tlws. Fe wnaethon ni gael y cyntaf ers amser hir heddiw ac rydw i mor hapus.
“Ers i fi gyrraedd mae pobl wedi dweud bod ‘Tottenham yn dîm da ond methu croesi'r llinell’. Heddiw, fe wnaethon ni hynny.”
Dywedodd bod hyfforddwr y clwb, Ange Postecoglou, wedi gwireddu ei addewid i ddechrau ennill tlysau yn ei ail dymor wrth y llyw.
“Mae wedi gwneud ei job,” meddai. “Fe ddywedodd ei fod yn ennill yn ei ail dymor ac mae wedi gwneud hynny.”
Roedd amddiffynnwr Cymru, Ben Davies, hefyd ar y fainc i Tottenham.