Iechyd: Cyhuddo Llywodraeth Cymru o 'symud targedau' amseroedd aros
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "symud targedau" amseroedd aros cleifion am driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd yn dilyn cyhoeddi'r ffigyrau swyddogol diweddaraf.
Er bod gostyngiad wedi bod yn nifer y bobl oedd yn aros am ddwy flynedd neu fwy am driniaethau oedd wedi eu trefnu o flaen llaw (8,389 o gleifion), fe fethodd y llywodraeth a chyrraedd y nod o ostwng y nifer o 24,000 i 8,000 erbyn y gwanwyn - targed oedd wedi ei osod yn flaenorol gan Eluned Morgan y prif weinidog.
Cafodd y targed ei osod ar ôl methu targed gwreiddiol Llywodraeth Cymru o ddileu arosiadau dwy flynedd yn gyfan gwbl erbyn Mawrth 2023.
Mae'r niferoedd a gyhoeddwyd ddydd Iau ar eu hisaf ers mis Ebrill 2021.
Wrth ymateb i'r ffigyrau ar gyfer Mawrth ac Ebrill 2025, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd, Mabon ap Gwynfor AS bod cannoedd o filoedd o bobl ar restri aros, dros 8,000 ohonyn nhw'n aros am fwy na dwy flynedd.
"Mae'r ffaith bod unrhyw Lywodraeth yn ceisio hawlio hynny fel buddugoliaeth, yn arwydd o ba mor ddifrifol mae Llafur wedi camreoli ein gwasanaeth iechyd," meddai.
"Record o fethiant cyson a thargedau a fethwyd - dyna record y Llywodraeth Lafur hon pan ddaw i'n gwasanaeth iechyd. Record o bobl yn aros yn rhy hir, heb dderbyn y gwasanaeth maen nhw'n ei haeddu - record o fethiant.
“Hyd yn oed ar ôl symud y targed gwreiddiol o ddileu arosiadau dros ddwy flynedd erbyn 2023, mae Llafur dal wedi methu hyd yn oed cyrraedd y targed newydd. Nid yn unig hynny, ond ar bob un mesurydd perfformiad – mae Llafur wedi methu â chyrraedd eu targedau."
'Balch'
Mae'r llywodraeth wedi croesawu'r ffigyrau diweddaraf fel arwydd fod eu gwaith o ostwng amseroedd aros yn llwyddo.
Dywedodd Eluned Morgan: “Mae’r ystadegau’n siarad drostynt eu hunain – mis arall eto lle mae amseroedd rhestrau aros yn disgyn.
“Dim ond oherwydd bod gennym ni ddwy lywodraeth Lafur yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r meysydd sydd bwysicaf i bobol Cymru.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: “Rwyf mor falch o weld unwaith eto, ein bod wedi taro mis arall lle mae rhestrau aros yn parhau i ostwng.
“Mae hyn yn fwy na dim ond niferoedd ar graff. Mae hyn yn bobl go iawn sy’n cael eu hanghenion gofal iechyd wedi’u diwallu’n gyflymach, yn treulio llai o amser mewn poen ac ansicrwydd, oherwydd y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Lafur y DU.
“Wrth gwrs fod rhagor o le i fynd, a mwy o’n blaenau. Ond mae’r niferoedd yn dangos, er bod Plaid Cymru yn rhy aml yn pendroni a Reform eisiau mynd â gordd i’r GIG, mae Llafur Cymru yn bwrw ymlaen â chyflawni.”
Wrth ymateb i'r dywedodd Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Mae rhestrau aros dwy flynedd o hyd ar gyfer triniaeth y GIG yn annerbyniol, o ystyried bod Lloegr bron wedi dileu amseroedd aros mor hir â hyn sawl blwyddyn yn ôl, mae cwestiynau difrifol yn parhau ynglŷn â sut mae Llafur wedi rheoli’r GIG yng Nghymru.
“Ni ddylai pobl byth gael eu gorfodi i fynd yn breifat oherwydd eu bod yn treulio misoedd mewn poen yn aros am driniaeth; mae’r cyhoedd yn haeddu gwell.”