'Dim o'i le' ar offer dynes o Gaerffili fu farw ar ôl neidio o awyren
Mae agoriad cwest dynes 32 oed o Gaerffili a fu farw wrth blymio o awyren wedi clywed nad oes “unrhyw le i amau a oedd ei hoffer wedi gweithio”.
Bu farw Jade Damarell ar ôl glanio ar dir fferm ger Fleming Field, Shotton Colliery yn Sir Durham yn Lloegr ar 27 Ebrill.
Wrth agor ei chwest yn Crook, Sir Durham dywedodd swyddog y crwner Alexis Blighe bod Jade Damarell wedi bod “mewn digwyddiad â pharasiwt”.
Fe wnaeth archwiliad post-mortem yn Newcastle upon Tyne ganfod ei bod wedi marw o ganlyniad i “drawma grym pŵl" (blunt force trauma).
Dywedodd Ms Blighe fod y corff wedi’i adnabod gan Bryn Chaffe, a oedd yn brif hyfforddwr yn y cwmni neidio o awyrennau a ddefnyddwyd gan Jade Damarell.
Gofynnodd y Crwner Jeremy Chipperfield wrth Ms Blighe: “Oes yna reswm i amau bod offer wedi methu?”
Atebodd Ms Blighe: “Dim rheswm o gwbl.”
Roedd Ms Damarell wedi neidio o awyren sawl gwaith o’r blaen.
Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd Sky-High Skydiving: “Gyda thristwch mawr yr ydym yn cadarnhau bod digwyddiad trasig wedi digwydd a oedd yn ymwneud ag aelod gwerthfawr o’n cymuned.”
Gohiriodd Mr Chipperfield y cwest llawn tan Awst 21.
Ar ôl ei marwolaeth, dywedodd ei theulu: “Roedd neidio o awyrennau a’r gymuned wych o amgylch gwneud hynny yn golygu cymaint i Jade ac mae'n gysur gweld faint o edmygedd, parch a chariad dwfn oedd gan bobl tuag ati.
“Rydym yn ei cholli hi y tu hwnt i eiriau ond bydd cariad, disgleirdeb, dewrder a goleuni Jade yn parhau i'n teulu ni ac i bawb oedd yn ei hadnabod a’i charu.”