Codiad cyflog uwch na chwyddiant i staff y gwasanaeth iechyd
Bydd staff y gwasanaeth iechyd yn cael codiad cyflog uwch na chwyddiant eleni yn ôl Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ei fod yn “gydnabyddiaeth o'r gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud yn ddyddiol i ddarparu gofal eithriadol i ni gyd”.
Bydd y codiad cyflog o 3.6% i staff y gwasanaeth iechyd yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2025, meddai Llywodraeth Cymru.
Bydd meddygon a deintyddion yn gweld cynnydd o 4% yn eu cyflogau dros yr un cyfnod.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y byddai cyflogau 2026-27 yn dibynnu ar drafodaethau â Thrysorlys y DU i sicrhau cyllid ychwanegol.
“Hoffwn ddiolch i holl staff y GIG am eu hymroddiad parhaus a’u gwaith diflino,” meddai.
“Mae eich ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau a gofal arbennig yn cael ei werthfawrogi’n fawr.”
Mae GIG Lloegr hefyd wedi cyhoeddi codiad cyflog o 3.6% i weithwyr y gwasanaeth iechyd, a 4% i feddygon, yr un pryd.