Newyddion S4C

Rhybudd i deithwyr am newidiadau i wasanaethau trên yn ne Cymru

Tren TFW

Fe fydd llai o wasanaethau trên yn rhedeg rhwng Caerdydd a Chasnewydd o ddydd Llun wrth i waith peirianyddol sylweddol gael ei gwblhau.

Mae disgwyl y bydd gwasanaethau rhwng y ddwy ddinas yn brysurach nag arfer rhwng dydd Llun 9 Mehefin a dydd Gwener 13 Mehefin, gyda newidiadau i'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau ar brif linell De Cymru o ganlyniad i’r gwaith.

Bydd trenau yn dal i redeg ond byddant yn defnyddio traciau arafach ar y rhan hon o'r llinell.

Gan fod Twnnel Hafren hefyd ar gau rhwng 9 Mehefin a 20 Mehefin, dim ond trwy Gaerloyw ar y rhan hon o'r lein y bydd GWR yn rhedeg y gwasanaeth pob awr i Lundain.

Mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i wirio cyn teithio.

Gorllewin Cymru

Bydd y gwaith yn effeithio ar wasanaethau yn ôl ac ymlaen o orllewin Cymru rhwng Abertawe, Caerfyrddin, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Harbwr Abergwaun. 

Bydd rhai gwasanaethau'n cael eu had-drefnu ac amseroedd rhai yn cael eu hymestyn. Bydd hynny'n effeithio yn arbennig ar y gwasanaethau a fydd yn teithio yn ôl ac ymlaen o Abertawe, Caerdydd a Manceinion.

Y Gororau

Bydd hyd y daith ar wasanaethau i gyfeiriad y de o Fanceinion Piccadilly, Caergybi, Caer, Crewe, Henffordd a'r Amwythig i Gaerdydd Canolog yn hirach rhwng Cwmbrân a Caerdydd Canolog.

Bydd gwasanaethau tua’r gogledd o Gaerdydd i’r cyrchfannau hyn yn gadael Caerdydd Canolog yn gynharach, gan ganiatáu iddynt redeg o’u hamseroedd gadael arferol o Gasnewydd ymlaen.

Ni fydd gwasanaeth 05:43 Abertawe i Fanceinion Piccadilly yn galw yn Craven Arms (08:25) na Church Stretton (08:34).

Glynebwy a Maesteg

Bydd gwasanaethau Glynebwy i Gaerdydd Canolog yn cael eu dargyfeirio a hefyd yn galw yng Nghasnewydd gydag amser teithio hirach. Bydd trenau rhwng Caerdydd a Glynebwy yn gadael Caerdydd Canolog yn gynt nag arfer. 

Ni fydd y rhan fwyaf o wasanaethau Glynebwy yn teithio i Faesteg ac eithrio rhai gwasanaethau hwyr y nos.

Ewch i'r dudalen we diwygiadau i wasanaeth i gael rhagor o fanylion am y gwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.