De Cymru i dderbyn cyfran o £86 biliwn ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg
Bydd y Canghellor Rachel Reeves yn cyhoeddi buddosddiad gwerth £86 biliwn ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg yn adolygiad gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a bydd cyfran ohono yn cael ei wario yn ne Cymru.
Yn ôl adran Wyddoniaeth a Thechnoleg San Steffan, bydd yr arian ar gael ar gyfer meysydd fel ymchwil i driniaethau cyffuriau a batris sydd yn para am gyfnod hir.
Mae disgwyl i'r Canghellor gyhoeddi'r manylion yn llawn yn ei hadolygiad ar wariant ddydd Mercher.
Bydd £500 miliwn ar gael i amrywiol ranbarthau, meddai'r adran, ac mae disgwyl i'r pecyn llawn fod yn werth mwy na £22.5 biliwn bob blwyddyn erbyn diwedd y ddegawd.
Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd buddsoddiad yn ne Cymru, sydd â'r clwstwr mwyaf o led-ddargludyddion (semiconductor) yn y Deyrnas Unedig, sy'n creu meicro-sglodion i bweru ffonau symudol a cheir trydan.
Wrth ymateb, dywedodd Vivienne Stern, Prif Weithredwr grŵp Universities UK sy'n cynrychioli 142 sefydliad addysg uwch: "Mae gan y DU gyfle go iawn yma i blannu hadau ar gyfer twf hir dymor, wrth i brifysgolion weithio gyda'r diwydiant a chyrff y sector cyhoeddus, er mwyn troi darganfyddiadau yn llwyddiant economaidd
"Bydd hyn yn creu swyddi da a chreu buddsoddiad o Abertawe i Aberdeen, o Barrow i Plymouth," meddai.
'Gweledigaeth'
Ond mae'r Sefydliad Ffiseg wedi rhybuddio bod angen strategaeth dros gyfnod llawer hwy ar gyfer gwyddoniaeth.
Dywedodd Tony McBride, cyfarwyddwr polisi a materion cyhoeddus y sefydliad: "Rydym angen strategaeth ar gyfer gwyddoniaeth a fydd yn para degawd. Mae'n rhaid i hynny gynnwys gweithlu sydd â sgiliau er mwyn cyflawni'r weledigaeth, drwy ddechrau gydag athrawon a phwyso a mesur pob cam ym myd addysg .
"Rydym yn gobeithio y bydd datganiad y Canghellor ddydd Mercher yn cyhoeddi gweledigaeth o'r fath."
Fis Mawrth, daeth cyhoeddiad y byddai buddsoddiad £250 miliwn gan gwmni lled-ddargludyddion trydan mwyaf y DU yn "cefnogi cannoedd o swyddi" yn ne Cymru.
Fe ymwelodd y Canghellor Rachel Reeves a ffatri Vishay Intertechnology yng Nghasnewydd bryd hynny.
Dywedodd Llywodraeth y DU ar y pryd bod y buddsoddiad yn rhan o gynlluniau i ddatblygu gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion ar raddfa fawr ym Mhrydain, ac yn galluogi ffatri Vishay i gynhyrchu lled-ddargludyddion Silicon Carbide.
Mae'r dechnoleg hon yn cefnogi amser gwefru batri cyflymach, gan alluogi cyflenwad mwy effeithlon o ynni i foduron trydan a phellteroedd gyrru hirach.
Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y buddsoddiad yn dod â chyfleoedd gwaith i dde Cymru.
"Mae disgwyl i fuddsoddiad Vishay gefnogi’n uniongyrchol dros 500 o swyddi gwerth uchel, medrus iawn yn y rhanbarth," meddai eu llefarydd.
"Bydd hefyd yn cefnogi cannoedd yn fwy yn anuniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi ehangach."