‘Newyddion arbennig’ y gallai addysg barhau ar gampws Llambed
Mae aelod o Senedd Cymru wedi dweud ei fod yn “newyddion arbennig” y gallai addysg barhau ar gampws Llanbedr Pont Steffan o Brifysgol y Drindod Dewi Sant.
Daw sylwadau AS Ceredigion Elin Jones wedi i Gyngor Ceredigion a’r brifysgol edrych ar gynlluniau i ddatblygu cyfleuster hyfforddiant galwedigaethol at gampws y dref.
Daeth cadarnhad fis Ionawr y bydd cyrsiau’r Adran Ddyniaethau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cael eu symud o Gampws Llanbedr Pont Steffan i Gampws Caerfyrddin.
Daw hynny er gwaethaf protest o flaen y Senedd a deiseb i achub addysg israddedig y campws sydd wedi derbyn dros 6000 o lofnodion.
Fe wnaeth y brifysgol alw am syniadau'r cyhoedd am ddyfodol eu campws ym mis Mawrth.
Wrth ymateb i’r posibilrwydd o gynnal hyfforddiant galwedigaethol, dywedodd Elin Jones bod yna “bosibilrwydd real nawr y bydd addysg yn parhau ar gampws Llanbed”.
“Addysg alwedigaethol a hyfforddiant i gannoedd o bobol ifanc leol Ceredigion,” meddai.
“Newyddion arbennig o dda i fusnesau a bywyd y dre’.
“Mae tipyn o waith eto i wneud i drefnu'r manylion ar hyn ond da iawn Cyngor Sir Ceredigion a’r Brifysgol am gael y weledigaeth i gynnig hyn.”
Mae'r brifysgol a'r cyngor sir wedi cadarnhau eu bod nhw yng "nghamau cynnar iawn” y broses o drafod datblygu cyfleuster hyfforddiant galwedigaethol.
"Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd," meddai'r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Emlyn Dole, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mewn datganiad ar y cyd.
"Dyma gyfle cyffrous i archwilio sut y gall Campws y Brifysgol yn Llambed barhau i wneud cyfraniad sylweddol i economi'r ardal a chymuned ehangach Llambed.
"Wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen, byddwn yn sicrhau bod y syniadau hyn, yn ogystal â syniadau'r grŵp rhanddeiliaid y mae'r Brifysgol wedi'i gynnull, yn cael eu casglu ynghyd fel y gallwn ni ymgysylltu ymhellach â'r gymuned am ddyfodol campws Llambed."