Caerdydd: Apelio am luniau gan dystion ar ôl i fachgen 15 oed gael ei saethu
Mae'r heddlu yn apelio am luniau gan dystion neu yrwyr ar ôl i fachgen 15 oed gael ei saethu yng Nghaerdydd.
Cafodd y bachgen ei anafu ar ôl cael ei saethu yng Nghlos Y Ffynnon ym Mhontprennau am 20:00 ddydd Sadwrn 7 Mehefin.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau nad yw’n peryglu bywyd.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio yn benodol ar unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd ac sydd â lluniau cylch cyfyng, i gysylltu â nhw.
Dywedodd y llu eu bod yn gofyn i unrhyw un oedd yn teithio drwy Bontprennau neu Bentwyn, drwy Church Road neu'r A4242 (ffordd cysylltu Pentwyn) rhwng 19:00 a 19:50 ar 7 Mehefin, i ddanfon unrhyw luniau dashcam iddynt.
Ychwanegodd y ditectif uwcharolygydd Mark O'Shea y gallai'r wybodaeth "fod o gymorth i ni wrth ddarganfod ac arestio'r person sydd yn gyfrifol."
Fe allai unrhyw un sydd â lluniau cylch cyfyng gysylltu gyda'r heddlu trwy eu gwefan a dyfynnu'r cyfeirnod 2500180055.