Newyddion S4C

Tri thad yn cerdded arfordir Môn er cof am eu merched fu farw o hunanladdiad

Beth, Sophie ac Emily

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys trafodaeth am hunanladdiad.

Bydd tri thad yn dechrau ar yr her o gerdded arfordir Môn ddydd Sadwrn er cof am eu merched fu farw o hunanladdiad.

Bydd Mike Palmer, Andy Airey a Tim Owen, sy'n cael eu hadnabod fel y '3 Dads Walking’ yn dechrau ar her o gerdded arfordir Môn mewn wythnos, gan ddechrau ym Mae Cemaes ddydd Sadwrn.

"Rydym ni'n dri o dadau sydd wedi profi profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Yn drist iawn, rydym ni gyd wedi colli merch," meddai Mike Palmer wrth Newyddion S4C. 

Fe gollodd Mike ei ferch, Beth, yn 2020 o ganlyniad i hunanladdiad. 

Bu farw merch Andy, Sophie, i hunanladdiad yn 2018, ac fe gollodd Tim ei ferch, Emily, yn 2020. 

Dywedodd Mike: "Rydym ni'n ymgyrchu i atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc, ac fel rhan o hyn, rydym ni'n codi arian ac ymwybyddiaeth i gefnogi elusen o'r enw PAPYRUS sy'n ceisio atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc."

Yn ôl elusen PAPYRUS, hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymysg pobl o dan 35 oed yn y DU. 

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, bu farw 1,840 o bobl ifanc o dan 35 oed yn y DU o ganlyniad i hunanladdiad yn 2023. 

Image
Bu farw merch Mike, Beth, yn 2020.
Bu farw merch Mike, Beth, yn 2020. 

Doedd Mike ddim yn adnabod Andy a Tim cyn iddyn nhw golli eu merched, ond fe ddaeth y tri i gysylltiad yn dilyn eu profedigaethau. 

"Mae'n le anodd iawn i fod, mae eich byd chi wedi troi ben ei waered. Ac yn sydyn iawn, ro'n i'n siarad gyda rhywun arall oedd yn deall yn union sut o'n i'n teimlo," meddai. 

"Roedden ni'n dri, roedden ni'n dri o dadau oedd yn cerdded."

Image
Mae'r tri thad wedi codi dros £1m i godi ymwybyddiaeth o ddulliau i atal hunanladdiad.
Mae'r tri thad wedi codi dros £1m i godi ymwybyddiaeth o ddulliau i atal hunanladdiad.

Fe ddechreuodd y tri wneud teithiau cerdded yn 2021 i godi arian ac ymwybyddiaeth. 

"Roedd yn brofiad arbennig, ac fe wnaethon ni ddysgu sawl peth. Fe wnaethon ni ddysgu nad oedden ni'n arfogi pobl ifanc i ddelio â meddyliau yn ymwneud â hunanladdiad," meddai Mike. 

"Os mai hunanladdiad ydy'r prif achos o farwolaeth ymysg pobl o dan 35 oed, a bod pethau ddim yn newid, pam nad ydym ni'n eu harfogi gyda'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnyn nhw i fod yn ddiogel?

"Ar ôl i ni orffen y daith gyntaf, gofynwyd y cwestiwn i ni 'Ydych chi wedi gorffen cerdded?'. Yr ateb oedd 'Na.' 

"Tan fod yna newid yn digwydd, rydym ni am barhau i gerdded."

Image
Mike Palmer, Andy Airey a Tim Owen
Mike Palmer, Andy Airey a Tim Owen.

Ddydd Sadwrn, fe fydd Mike, Andy a Tim yn dechrau ar eu taith nesaf, sef cwblhau taith o amgylch arfordir Ynys Môn. 

Fe symudodd Mike i Fae Cemaes ar Ynys Môn ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n awyddus i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a dulliau i atal hunanladdiad yn yr ardal. 

"Dwi wedi cael fy nghroesawu yn fawr yma, ond dwi wedi sylwi fod y gymuned yma ychydig yn fwy ynysig," meddai.

"Does yna efallai ddim yr ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i bobl yma, a weithiau yr alwad gyntaf yna sy'n gwneud y gwahaniaeth - y gwahaniaeth rhwng byw a marw.

"A dyna pam 'dan ni eisiau amlinellu fod gan PAPYRUS linell gymorth 24/7. Rydym ni'n gwybod fod pob un o'r galwadau yma yn gallu arbed bywyd."

Image
Mae'r tri thad wedi bod yn annog trafodaeth genedlaethol am iechyd meddwl
Mae'r tri thad wedi bod yn annog trafodaeth genedlaethol am iechyd meddwl.

Rhywbeth sydd yn pryderu Mike ydy fod y llinell gymorth 'HOPELINE247' o dan fygythiad yn sgil heriau ariannol cynyddol. 

Mae apêl wedi ei gwneud gan yr elusen i gadw'r llinell gymorth ar gael yn ystod y nos hefyd.

Yn 2024, fe gafodd 12,000 o alwadau achub bywyd eu gwneud yn ystod y nos, yn ôl elusen PAPYRUS. 

"Rydym ni'n benderfynol na all hyn fynd yn wasanaeth dydd yn unig," meddai Mike.

"Rydym ni'n gwybod beth all ddigwydd yn ystod yr oriau tywyllaf, ac mae'r nifer o alwadau y maen nhw'n dderbyn yn yr oriau yma wedi cynyddu yn sylweddol.

"Gall pob un o'r galwadau hyn fod yn rhai i achub bywyd."

Image
Fe fydd y tri yn dechrau ar yr her ddydd Sadwrn, ac yn gorffen ar y Sadwrn canlynol.
Fe fydd y tri yn dechrau ar yr her ddydd Sadwrn, ac yn gorffen ar y Sadwrn canlynol.

Ychwanegodd Mike: "Yn aml iawn, mae'n cymryd trasiedi i bethau ddechrau newid. Mae'n rhaid i ni ymbweru ein plant i allu estyn allan am gymorth, i allu siarad am y pethau hyn."

Mae'n awyddus i annog pobl ifanc i ddysgu am ddulliau atal hunanladdiad yn yr ysgol hefyd. 

"Dwi wedi gweld dulliau atal hunanladdiad yn cael eu dysgu mewn ysgolion o flwyddyn saith hyd at y Chweched Dosbarth," meddai.

"Pan mae'n cael ei ddysgu'n gywir, mae'n drawiadol iawn. Mae'r bobl ifanc wedyn yn gwybod pam maen nhw'n cael eu haddysgu am hyn - er mwyn eu cadw yn ddiogel."

Bydd Mike, Andy a Tim yn rhan o drafodaeth ddydd Mercher yn Llangefni yn ymwneud ag atal hunanladdiadau mewn ysgolion, a sut all hyfforddiant rymuso athrawon a myfyrwyr ac achub bywydau.

"Roedden ni'n meddwl y byddai'n syniad da i gyflwyno'n hunain fel y tri tad. Mae'n wahoddiad agored hefyd, felly mae croeso i unrhyw un," meddai.

"Rydym ni eisiau annog trafodaeth agored."

Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.