Newyddion S4C

'Rhaid cyfri ein bendithion': Eglwys yng Ngwynedd wedi ei tharo gan fellten

Eglwys Caersalem

Mae gweinidog yn dweud ei fod yn “cyfri ein bendithion” ar ôl i eglwys yng Ngwynedd gael ei tharo gan fellt bore dydd Sadwrn. 

Cafodd Eglwys Caersalem yng Nghaernarfon ei tharo gan fellten toc wedi 06.00 y bore yn dilyn cyfnod o dywydd garw. 

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y parchedig Rhys Llwyd bod yr eglwys bod “cryn dipyn o niwed” wedi bod i’r adeilad yn dilyn y digwyddiad. 

Mae “llawer o’n hoffer wedi ei niweidio gan y foltedd ruodd trwy'r adeilad” yn ogystal, meddai yn y datganiad. 

Ond fe fydd yr eglwys yn parhau ar agor ddydd Sul er mwyn i bobl gael dod at ei gilydd i addoli, ychwanegodd. 

“Er gwaethaf y drafferth rydym yn cyfarfod yn ôl yr arfer i addoli gyda'n gilydd bore fory, ond bydd rhaid i ni wneud pethau ychydig yn wahanol yn y tymor byr tan fod pethau yn ôl i drefn a’n bod wedi cael amser i drafod gyda’r cwmni yswiriant.

“Fel Eglwys rydym yn profi cyfnod o fendith rhyfeddol fel arall, cynulleidfa braf sy'n parhau i dyfu bob dydd Sul, ac rydym yn disgwyl ymlaen yn fawr i'r oedfa Fedydd mewn rhai wythnosau.

“Rhaid cyfri ein bendithion!” 

Daw ar ôl i rybudd tywydd melyn am fellt a tharanau bod mewn grym ar gyfer Gymru gyfan.

Roedd disgwyl iddo barhau hyd at 18.00 ddydd Sadwrn ond daeth i ben yn gynnar yn y prynhawn yn dilyn diweddariad gan y Swyddfa Dywydd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.