Pen-y-bont ar Ogwr: Cartrefi wedi'u taro gan lifogydd
Mae cartrefi mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael eu taro gan lifogydd yn dilyn glaw trwm dros nos.
Dyma’r ail dro i’r ardal ddioddef llifogydd gwael yn ddiweddar, gyda rhai trigolion dal yn disgwyl i ddychwelyd i’w cartrefi yn dilyn llifogydd yno naw mis yn ôl.
Roedd yn rhaid i swyddogion o’r gwasanaeth tân achub menyw o floc o fflatiau wedi’r difrod nos Wener.
Roedd y fenyw yn byw ar lawr gwaelod yr adeilad. Dyw hi ddim wedi dioddef unrhyw anafiadau a doedd dim rhaid iddi dderbyn triniaeth feddygol.
Mae digwyddiadau yn yr ardal wedi eu gohirio hefyd. Mae syrcas lleol wedi canslo pob sioe oedd yn weddill yn dilyn llifogydd ar y cae ble roeddent yn disgwyl perfformio.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud mai llifogydd gan ddŵr ar yr arwyneb oedd hyn, ac nid llifogydd o afonydd lleol.
Dywedodd y cynghorydd lleol dros Ddwyrain Maesteg, Martin Hughes bod llefydd yn ardal Garth wedi’u heffeithio’n sylweddol – gan gynnwys rhannau o Heol Elfed, Bronywaun, Heol Faen a Ffordd Pen-y-bont ar Ogwr.
Ychwanegodd ei fod wedi cysylltu gyda’r cyngor er mwyn trefnu ymgyrch glanhau.
“Dwi’n ymwybodol bod rhai trigolion wedi dioddef llifogydd y tu fewn i’w cartrefi,” meddai.
Mae rhybudd tywydd melyn am fellt a tharanau wedi bod mewn grym ar gyfer Gymru gyfan.
Roedd disgwyl iddo barhau hyd at 18.00 ond mae wedi dod i ben yn gynnar yn dilyn diweddariad gan y Swyddfa Dywydd.
Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi unrhyw rybuddion ar gyfer llifogydd ar eu gwefan nhw.