
'Gorfod ystyried codi tâl' i fynd i Tafwyl yn y dyfodol
'Gorfod ystyried codi tâl' i fynd i Tafwyl yn y dyfodol
Mae prif swyddog Tafwyl wedi dweud y bydd yr ŵyl yn "gorfod ystyried codi tâl" ar gyfer mynediad yn y dyfodol.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Bethan Jones-Ollerton bod costau'r ŵyl yng Nghaerdydd wedi cynyddu'n sylweddol o gymharu â llynedd.
Eleni fydd y 19eg tro i Tafwyl cael ei chynnal, a dros y blynyddoedd mae wedi symud o dafarn y Mochyn Du i Gastell Caerdydd a bellach Parc Biwt.
Mae miloedd yn heidio draw bob blwyddyn, a gyda help noddwyr fel Llywodraeth Cymru mae'r trefnwyr wedi gallu cadw'r ŵyl yn un di-dâl - hyd yn hyn.
“Yn anffodus mae rhywbeth fel codi tâl yn rhywbeth ‘da ni’n gorfod ystyried," meddai Bethan Jones-Ollerton.
“Ni yn gweithio’n galed iawn i beidio gorfod mynd lawr y llwybr yna, ond ma’ costau pethe wedi codi fel ma’ pawb yn gwybod.
“Ma’ costau byddech chi ddim yn meddwl, ma’ cost llwyfan blwyddyn yma yn costio lot fwy nag oedd o blwyddyn diwethaf.
“Ma’r costau ‘na’n gorfod dod o rywle er mwyn i ni allu cynnal yr ŵyl."

'Gweithio'n galed'
Mae gan yr ŵyl sawl partner a noddwr gan gynnwys S4C, BBC Radio Cymru, Prifysgol Caerdydd a Samariaid Cymru.
Gyda chymorth y rhain mae modd cadw mynediad am ddim, ond mae gwaith cyson y tu ôl i'r llenni i sicrhau mwy o noddwyr a phartneriaid.
“Da ni’n gorfod ceisio am grantiau a cael sponsors," meddai Bethan.
“Felly ‘da ni isho i’r ŵyl barhau i fod am ddim i’r cyhoedd i ddod fel bod o yn rhywbeth ma’ unrhyw un yn gallu dod er mwyn cael blas o ddiwylliant Cymru.
“Felly, ein swydd ni drwy’r flwyddyn yw i gyllido yr ŵyl, felly ni’n gweithio’n galed i gael gwahanol arian o gwahanol lefydd.”
Fflip fflops neu welïs?
Bydd swyddog iechyd a diogelwch Tafwyl yn monitro'r tywydd yn gyson gan fod rhybudd melyn am fellt a tharanau mewn grym ddydd Sadwrn.
Fe fydd y rhybudd tywydd melyn yn ymestyn o hanner nos nes 18.00 ac fe allai 60-80mm o law syrthio mewn rhai mannau.
Diogelwch pawb sydd yn mynychu'r ŵyl yw prif flaenoriaeth i Bethan Jones-Ollerton ac fe fydd camau yn cael eu cymryd pe bai'r tywydd yn golygu nad oes modd cynnal yr ŵyl yn ddiogel.
"Mae ein swyddog iechyd a diogelwch ni yn cadw golwg brwd ar bob dim," meddai.
"Ar hyn o bryd mae'n argyhoeddi i fod yn oce, mae 'na rybuddion ond 'da ni yn cadw golwg ar hynny a mi fyddwn yn sicrhau bod pawb yn saff. Dyna'r pryder mwyaf i ni.
"Da ni'n byw yng Nghymru, mae'n heulog un munud a wedyn yn glawio. Felly dewch a cot law, ymbarél ond hefyd sbectol haul ac eli haul.
"Byswn i'n dod a sgidiau call hefyd, achos mae Tafwyl wrth gwrs ar y glaswellt."