Iran yn bygwth ymosod ar ganolfannau milwrol y DU pe bai'n cefnogi Israel
Iran yn bygwth ymosod ar ganolfannau milwrol y DU pe bai'n cefnogi Israel
Mae Iran wedi rhybuddio y bydd yn targedu canolfannau a llongau milwrol y Deyrnas Unedig, Ffrainc a’r Unol Daleithiau pe bai’r gwledydd yn rhoi cymorth i Israel.
Daw wrth i frwydro ffyrnig barhau yn y Dwyrain Canol wedi i Iran ymosod ar Israel dros nos, a hynny mewn ymateb i’w ymosodiad ar safleoedd niwclear ddydd Gwener.
Roedd ymosodiadau ar ddwsinau o safleoedd milwrol Iran ddoe, gyda ffrwydradau wedi eu clywed yn y brifddinas Tehran.
Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi dweud mai rhaglen niwclear Iran oedd eu targed, a hynny wedi i’r wlad gyhoeddi y byddai'n cynyddu ei hallbwn o wraniwm.
Mae lluoedd arfog Israel, yr IDF, wedi dweud eu bod yn parhau i ymosod ar Iran ddydd Sadwrn.
Dywedodd eu bod wedi taro dros 150 o dargedau yn ystod y 24 awr ddiwethaf a bod hynny’n cynnwys canolfan niwclear yn Isfahan.
Mae Netanyahu yn dweud y bydd ei wlad yn ymosod ar “bob safle a phob targed sy’n rhan o gyfundrefn (‘regime’) ayatollah” yn Iran.
“Mae yna fygythiad enfawr gan daflegrau balistig, rydyn ni wedi cymryd camau i ddinistrio gallu Iran i gynhyrchu taflegrau balistig o’r fath,” meddai.
'Dibwrpas'
Mae Iran bellach wedi rhybuddio y byddai’n cymryd camau yn erbyn y DU, Ffrainc a’r UDA pe bai’n darparu unrhyw gefnogaeth i Israel wedi’r ymosodiadau.
Yn ôl adroddiadau’r BBC, mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog Keir Starmer yn dweud ei fod wedi trafod gyda Thywysog y Goron Saudi Arabia, Mohammed bin Salman brynhawn ddydd Sadwrn.
Mae’r arweinwyr yn cytuno bod angen mynd i’r afael â’r sefyllfa yn y ffordd fwyaf heddychlon bosib, ychwanegodd y llefarydd.
Roedd disgwyl i drafodaethau gael eu cynnal rhwng Iran a’r Unol Daleithiau ddydd Sul er mwyn trafod cynllun niwclear Iran.
Mae gweinidogaeth dramor Iran bellach wedi dweud mai “prif ffocws” y wlad ydy’r sefyllfa bresennol yn y Dwyrain Canol.
Maen nhw hefyd yn dweud y byddai trafodaethau o’r fath yn “ddibwrpas” os ydy America yn cefnogi ymgyrch filwrol Israel.
'Amser i stopio'
Mae’r awdurdodau yn Iran wedi dweud bod o leiaf 60 o bobl, gan gynnwys 20 plant, wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad yn Tehran.
Dywedodd yr awdurdodau yn Israel bod tri o bobl wedi eu lladd a dwsinau wedi eu hanafu.
Mae’r IDF yn dweud eu bod wedi lladd naw wyddonydd niwclear yn Iran. Maen nhw hefyd yn dweud eu bod wedi lladd dros 20 o gadlywyddion Iran – gan gynnwys pennaeth cudd-wybodaeth lluoedd arfog Iran, Gholam-Regha Merhabi.
Yn ôl adroddiadau lleol yn Iran mae dirprwy bennaeth gweithrediadau’r fyddin, Gen Mehdi Rabbani, wedi ei ladd hefyd.
Ag yntau’n cynrychioli Iran yn y Cenhedloedd Unedig, dywedodd Amir-Saeid Iravani bore dydd Sadwrn bod o leiaf 78 o bobl wedi cael eu lladd yno hyd yma, gyda 320 o bobl bellach wedi eu hanafu.
Yn ôl y gwasanaethau brys yn Israel, Magen David Adom, cafodd ardal Gwastadedd Arfordirol (Coastal Plain) y wlad ei dargedu gan rocedi. Mae Tel Aviv a’r brifddinas Jerwsalem ymhlith y dinasoedd sydd wedi eu targedu.
Mae ffrwydradau wedi eu clywed yn ardal ganolog Israel hefyd ac mae pobl wedi gorfod chwilio am loches.
Mae swyddogion o’r Cenhedloedd Unedig wedi galw am ddiwedd i’r ymosodiadau gan ddweud “mae’n amser i stopio.”
Llun: Y dinistr yn Israel yn dilyn gwrthymosodiad Iran (Reuters)