Ail-agor siop losin hynaf de Cymru gyda chenhadaeth newydd
Ail-agor siop losin hynaf de Cymru gyda chenhadaeth newydd
Mae siop losin hynaf annibynnol de Cymru wedi ail agor ei drysau gydag enw Cymraeg newydd er mwyn cynnig cyfle i oedolion ag awtistiaeth ac anableddau dysgu.
Fe gafodd The Pink Shop yn Nhrefforest, Pontypridd ei hagor ar ei newydd wedd dan yr enw Pinc ar ddydd Gwener y 13eg o Fehefin.
Y perchnogion newydd yw'r Nyrs Iechyd Meddwl Jazmin Dicker a'r Rheolwr Gofal Cofrestredig Sian Perez, sefydlwyr y busnes Crwban Care and Support Ltd.
Dechreuodd Jaz a Sian eu cwmni Crwban tair blynedd yn ôl. Y bwriad yw darparu tai a rhoi cymorth i unigolion sydd ag awtistiaeth ac anableddau dysgu i fod mor annibynnol â phosibl ac integreiddio o fewn y gymuned.
"Yn y pen draw rydym am helpu pobl i fyw eu bywydau gorau posibl," meddai Jaz wrth Newyddion S4C.
"Mae Pinc wir yn ffito mewn i hwn, oherwydd rydyn ni moyn i'n trigolion i fod yn rhan o'r caffi cymunedol yma a chael y cyfle i weithio yma, a hefyd i deimlo fel rhan o rywbeth sydd wir yn sbesial."
'Cyfleoedd'
Mae'r siop yn dipyn o eicon yn Nhrefforest ar ôl agor yn yr 1940au.
Yn y siop Pinc, mae Crwban eisoes wedi creu cyfleoedd i bobl sydd yn derbyn cymorth i wirfoddoli yn ei siop i ddatblygu sgiliau bywyd. Y gobaith yw y bydd y profiad yn arwain at gyflogaeth â thâl yn yr hir dymor.
"Pan gymeron ni'r Pinc drosodd, fe wnaethon ni hynny ar y sail bod defnyddwyr ein gwasanaeth bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli ac am gyflogaeth â thâl. Fe welon ni nad oedd cymaint o gyfleoedd yn yr ardal," meddai Sian wrth siarad gyda Newyddion S4C.
"Roedden ni'n meddwl y byddai'n syniad gwych i'n defnyddwyr gwasanaeth i wirfoddoli yma ac, ymhen amser, gallu gweithio a chael eu talu."
Mae nifer o ddefnyddwyr gwasanaethau Crwban gan gynnwys Amelie, Declan a Dylan yn dweud eu bod nhw'n gyffrous iawn i ddechrau gwirfoddoli yn y siop.
"Rydyn ni moyn bod yn lle sydd yn dod â'r gymuned at ei gilydd," meddai Jaz.