Newyddion S4C

Menyw yn galw ar bobl i fod yn 'fwy ymwybodol' o drawiadau epileptig

ITV Cymru
Melissa a Kevin Davidge

Mae menyw o Ferthyr Tudful yn galw ar bobl i fod yn "fwy ymwybodol" o'r cyflwr epilepsi.

Cafodd Melissa Davidge, 42 oed ddiagnosis pan yn blentyn.

Er mwyn delio gyda thrawiadau (seizures) epilepsi mae rhaid iddi gymryd 14 o dabledi'r diwrnod.

Ers yn blentyn mae hi wedi torri esgyrn a chael ei llosgi wrth ddisgyn mewn i fath poeth o achos y trawiadau.

Dywedodd Ms Davidge wrth ITV Cymru bod tasgau dyddiol yn her fawr iddi ac mae'n dibynnu ar ei theulu am gefnogaeth.

"Dylai pobl ddeall bod mwy nag un fath o drawiad," meddai.

"Maen nhw pob tro yn meddwl bod chi mynd i ddisgyn ar y llawr, dechrau siglo, ond mae yna lawer o drawiadau gwahanol y gallwch chi ddioddef.

Image
Mae Melissa wedi colli allan ar ddigwyddiadau fel sioeau oherwydd ei chyflwr
Mae Melissa wedi colli'r cyfle i wneud nifer o ddigwyddiadau fel sioeau oherwydd ei chyflwr

Mae gŵr Melissa, Kevin Dedridge yn helpu i ofalu amdani.

Er bod rhai dyddiau lle nad yw Melissa yn dioddef trawiad, dydyn nhw ddim yn gwybod pryd daw'r un nesaf.

"Mae rhaid i chi fod yn hynod wyliadwrus pob amser," meddai.

Yng Nghymru mae tua 30,000 o bobl yn byw gydag epilepsi.

Mae adroddiad newydd gan Epilepsy Action Cymru wedi canfod bod pob un bwrdd iechyd yng Nghymru yn methu â chyrraedd y safonau triniaeth ddisgwyliedig ar gyfer trawiad epileptig cyntaf claf.

Yn ôl canllawiau Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) dylai cleifion cael eu gweld gan arbenigwr o fewn pythefnos ar ôl trawiad cyntaf.

Ond dyw 43% o gleifion ddim yn cael eu cyfeirio at wasanaeth arbenigol ar ôl dioddef eu trawiad cyntaf.

Hefyd mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod Cymru'n wynebu prinder gweithwyr niwroleg.

'Angen newid'

Dywedodd Janet Paterson, Rheolwr Cymru gyda Epilepsy Action bod angen newid ar unwaith.

"Mae yna lawer o waith i'w wneud er mwyn cyrraedd y lefel cywir o ran gofal i bobl sydd ag epilepsi yng Nghymru," meddai.

"Mae gormod o gleifion yn dweud wrthym eu bod nhw'n aros misoedd am apwyntiad, neu yn methu cael gafael ar arbenigwr oherwydd bod ganddyn nhw ormod o gleifion.

"Mae angen i hyn newid nawr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi "gosod yr hyn sydd yn ddisgwyliedig gan fyrddau iechyd" er mwyn sicrhau bod gan bobl sy'n byw a chyflyrau fel epilepsi "fynediad amserol a theg i wasanaethau o safon uchel."

“Rydym yn cydnabod yr heriau i’r gweithlu sy’n effeithio ar nifer yr arbenigwyr ar gyfer cyflyrau niwrolegol ac yn gweithio gyda’r rhwydwaith clinigol, yn ogystal ag Epilepsy Action Cymru, i fynd i’r afael â hyn.”

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.