Newyddion S4C

Rygbi: Penodi capten newydd ar gyfer taith menywod Cymru i Awstralia a Chwpan y Byd

Sean Lynn

Fe fydd prif hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, yn enwi capten newydd ar gyfer taith tîm menywod Cymru i Awstralia a Chwpan Rygbi’r Byd.

Fe gymerodd Lynn yr awenau fel prif hyfforddwr wythnos cyn ymgyrch yn y Chwe Gwlad yn gynharach eleni ac mae wedi tanlinellu ei benderfyniad i "newid y diwylliant" yng ngharfan y tîm cenedlaethol.

Fe orffennodd Cymru ar waelod tabl y Chwe Gwlad ar ôl colli pob un o’u pum gêm yn y gystadleuaeth.Penodwyd y canolwr Hannah Jones, yn gapten ar gyfer y Chwe Gwlad 2023 a bydd yn dal i chwarae rôl arweinyddiaeth allweddol o fewn y garfan, meddai Lynn.

Fe wnaeth Lynn enwi carfan hyfforddi haf o 45 chwaraewr gyda llu o wynebau newydd o dan 18 oed, dan 20 oed Cymru a'r Celtic Challenge i danlinellu ei ymrwymiad i newid yn y garfan.

Dywedodd Sean Lynn: “Mae hwn yn bennod newydd i’r tîm, ac rwy’n benderfynol o yrru’r newid sydd ei angen arnom gyda’r garfan, yr hyfforddwyr a’r staff fel ein bod yn adeiladu llwyddiant go iawn ar sylfeini cadarn.

“Mae capten newydd i Gymru yn rhan o’r broses hon, ac mae gennym rai ymgeiswyr, ond mae angen iddynt brofi bod ganddynt y rhinweddau i arwain y tîm cenedlaethol.

“Mae Hannah Jones wedi gwneud gwaith proffesiynol iawn mewn amgylchiadau heriol sydd wedi’u cofnodi’n dda, ond byddwn yn galw am lais ffres mewn symudiad bwriadol i dyfu’r arweinyddiaeth o fewn y garfan.

"Mae Hannah yn parhau i fod yn aelod gwerthfawr ac uwch o’r garfan. Rydym wedi mwynhau llwyddiant mawr gyda’n gilydd ar lefel clwb ac rwyf am i ni wneud yr un peth ar lefel ryngwladol.”

Llun: Undeb Rygbi Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.