Cwest: Dwy chwaer wedi boddi mewn pyllau dŵr ger yr Wyddfa
Mae cwest wedi clywed bod dwy chwaer gafodd eu tynnu o byllau dwr ger yr Wyddfa wedi boddi.
Mewn gwrandawiad byr yng Nghaernarfon ddydd Mercher, clywodd y cwest fod Hajra Zahid, 29, a Haleema Zahid, 25, wedi cael eu tynnu o byllau ger Llwybr Watcin ar 11 Mehefin ar ôl teithio i'r ardal gyda ffrindiau o'r brifysgol
Cafodd Hajra Zahid, 29, a Haleema Zahid, 25, eu tynnu o byllau ar Lwybr Watkin – sy'n arwain at gopa'r Wyddfa – yng Ngogledd Cymru ddydd Mercher Mehefin 11.
Ganed y ddwy ym Mhacistan ond yn byw ym Maltsby, Rotherham, yn Ne Swydd Efrog.
Dywedodd crwner cynorthwyol gogledd-orllewin Cymru Sarah Riley: “Roedd Hajra a Haleema wedi teithio i ardal Nant Gwynant gyda ffrindiau o'r brifysgol.
“Maen nhw wedi mynd i mewn i'r dŵr ac yn anffodus bu farw'r ddwy o ganlyniad i foddi.”
Clywodd y cwest fod y ddwy oedd yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caer wedi cael eu hadnabod gan ffrind.
Ychwanegodd Ms Riley: “Mae ymchwiliadau'n parhau o ran sut y daethant i'w marwolaeth ac felly mae'r cwest wedi'i ohirio i ganiatáu cwblhau'r ymchwiliadau hynny.
“Rwy’n cynnig fy nghydymdeimlad diffuant i’w teulu, eu ffrindiau a phawb a’u hadnabu a’u caru.”
Dywedwyd wrth y gwrandawiad, a gynhaliwyd yn Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon, fod y ddwy fenyw wedi’u cyhoeddi’n farw ychydig cyn 11pm ar Fehefin 11.
Galaru
Yr wythnos diwethaf, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru fod swyddogion wedi’u galw i Nant Gwynant am tua 09:30pm ar ôl adroddiad bod un fenyw wedi’i thynnu o’r dŵr a bod un arall yn y pyllau.
Tynnwyd yr ail fenyw o’r dŵr ond cyhoeddwyd ei bod wedi marw yn y fan a’r lle.
Anfonwyd tîm achub mynydd o Lanberis i'r ardal ynghyd ag ambiwlans awyr a hofrennydd gwylwyr y glannau.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Caer, yr Athro Eunice Simmons: “Mae cymuned Prifysgol Caer yn galaru am golled drasig Haleema Zahid a Hajra Zahid ac mae ein cydymdeimlad diffuant gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau yn ystod yr amser anodd hwn.
“Ymunodd Haleema a Hajra ag Ysgol Fusnes Caer yn gynharach eleni ar y cwrs Meistr mewn Busnes Rhyngwladol.
“Fe wnaethon nhw gyffwrdd â bywydau llawer yma yng Nghaer – eu ffrindiau, y garfan ar eu cwrs a'r staff a'u haddysgodd – a bydd colled fawr ar eu hôl.”