Newyddion S4C

Trump yn awgrymu ei fod yn ystyried ymuno ag ymgyrch Israel yn erbyn Iran

Trump yn y G7

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi awgrymu ei fod ystyried ymuno ag ymgyrch Israel yn erbyn Iran.

Mae Llywodraeth Israel wedi bod yn annog y Tŷ Gwyn i ymyrryd yn y gwrthdaro gyda’r nod o atal rhaglen niwclear Iran.

Fe siaradodd Donald Trump â Phrif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, ar y ffôn brynhawn ddydd Mawrth meddai llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn.

Mae adroddiadau bod Llywodraeth Israel eisiau i'r Unol Daleithiau ollwng rhai o’i bomiau mwyaf ar safle niwclear yn Iran sydd wedi'i leoli'n ddwfn o dan y ddaear. 

Nid oes gan Israel fomiau mor fawr i allu gwneud hynny nac awyrennau rhyfel digon mawr i'w cario.

Daw wrth i Israel ddweud eu bod nhw wedi taro safle sy’n cyfoethogi wraniwm yn Tehran dros nos ar nos Fawrth a bore Mercher.

Mae’n bosib defnyddio wraniwm wedi'i gyfoethogi i wneud tanwydd ar gyfer gorsafoedd pŵer ond hefyd bomiau niwclear.

Mae Israel hefyd yn dweud eu bod wedi taro ffatrïoedd sy’n cynhyrchu taflegrau yn Iran dros nos.

‘Ildio’

Fe gyhoeddodd Donald Trump negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth gan hawlio "rheolaeth lwyr a chyflawn yn yr awyr dros Iran".

Aeth yn ei flaen i rybuddio Goruchaf Arweinydd Iran, yr Ayatollah Ali Khamenei ei fod yn “gwybod yn union ble mae’n cuddio”.

“Mae'n darged hawdd, ond mae'n ddiogel yno - Dydyn ni ddim am ei ddileu (lladd!), o leiaf nid am y tro,” meddai.

Ond fe bwysleisiodd ei fod yn “colli amynedd" a rhybuddiodd mewn un neges olaf fod angen i Iran "ILDIO YN DDIAMOD!"

Mewn cyfres o negeseuon ar gyfrwng X fe ymatebodd Khamenei na fydd Iran "byth yn cyfaddawdu”.

Mewn neges wahanol dywedodd bod y "frwydr yn dechrau".

Llun: Trump yng nghyfarfod y G7 ddydd Mawrth. Llun gan Suzanne Plunkett / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.