Jac Morgan a Tomos Williams yn nhîm y Llewod yn erbyn Yr Ariannin
Mae'r Cymry, Jac Morgan a Tomos Williams, wedi eu cynnwys yng ngharfan Andy Farrell ar gyfer gêm gyntaf taith y Llewod yn erbyn Yr Ariannin yn Nulyn nos Wener.
Mae capten Cymru, Morgan, wedi’i ddewis yn y rheng ôl ynghyd â'r gwŷr o Loegr, Ben Earl a Tom Curry, ac fe fydd yn gwisgo'r crys rhif saith.
Dim ond lle ar y fainc sydd i'r mewnwr Tomos Williams, wedi ei dymor llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Lloegr dros Gaerloyw, lle gipiodd gwobr chwaraewr y flwyddyn.
Alex Mitchell o Loegr fydd yn cymryd y crys rhif naw, gyda’i gyd-chwaraewr cenedlaethol, Fin Smith, yn bartner iddo yn y crys 10.
Saith aelod o’r garfan sydd wedi gwisgo'r crys eisoes, gydag 14 chwaraewr yn paratoi i brofi gêm i’r Llewod am y tro cyntaf yn Nulyn.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r Ariannin wynebu'r Llewod yn eu hanes.
Mae'r Pumas wedi dewis tîm llawn profiad ar gyfer y gêm yn y Stadiwm Aviva, gyda'r bachwr Julian Montoya yn gapten.
Inline Tweet: https://twitter.com/WelshRugbyUnion/status/1935322149960425551
Fe fydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw nos Wener am 20:00 ar S4C.