Newyddion S4C

Sir Benfro: Dyn 19 oed yn cyfaddef achosi anaf drwy yrru'n beryglus

Y babell

Mae dyn yn ei arddegau wedi cyfaddef achosi anaf drwy yrru'n beryglus ar ôl i'w gar Ford Fiesta daro i mewn i faes pebyll yn Niwgwl yn Sir Benfro nos Sadwrn 12 Awst, 2023.

Fe ymddangosodd Jack Hale, 19 oed, o Simpson Cross, Hwlffordd, yn Llys Ynadon Hwlffordd lle plediodd yn euog i bedwar cyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Abertawe i'w ddedfrydu yn ddiweddarach eleni.

Cafodd naw o bobl eu hanafu yn y digwyddiad gan gynnwys rhai oedd yn teithio yn y car.

Cafodd un person ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Cafodd dau berson eu cludo i Ysbyty Treforys, Abertawe, gyda phump arall wedi mynd i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.