Ruth Jones a'i gŵr David Peet yn cyhoeddi eu bod wedi gwahanu
Mae seren a chyd-greawdwr y gyfres deledu Gavin and Stacey, Ruth Jones, a'i gŵr, y cynhyrchydd David Peet, wedi gwahanu'n gyfreithiol.
Dywedodd y ddau eu bod yn "parhau i fod yn ffrindiau da.”
Dywedodd y cwpl, a briododd ym 1999: "Aethom ein ffyrdd ar wahân yn gyfeillgar 18 mis yn ôl ac rydym bellach wedi gwahanu'n gyfreithiol.
"Rydym yn parhau i fod yn ffrindiau da.
"Ers ein gwahanu, mae Ruth yn byw yn Llundain a David yn byw yng Nghanada, lle mae mewn perthynas newydd."
Fe ddaeth Jones i enwogrwydd fel cyd-awdur a seren Gavin and Stacey, gan chwarae Vanessa ‘Nessa’ Jenkins, mewn tair cyfres a thri rhaglen arbennig Nadolig o 2007 i 2024.
Yn y Baftas Teledu eleni, fe enillodd y wobr yng nghategori'r actores orau mewn comedi.
Mae Jones hefyd wedi ymddangos yn y ddrama Fat Friends ar ITV a Little Britain ar y BBC.Yn 2014, cefodd ei gwobrwyo gyda MBE am ei gwasanaethau i adloniant.
Llun: IMDB