Newyddion S4C

Cyhuddo pedwar person o achosi difrod gwerth £7 miliwn i awyrennau'r Awyrlu Brenhinol

Awyren Voyager

Mae pedwar person wedi cael eu cyhuddo o achosi difrod gwerth £7 miliwn i awyrennau'r Awyrlu Brenhinol.

Roedd y grŵp Palestine Action wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad ar 20 Mehefin yn safle'r Awyrlu Brenhinol yn Brize Norton, Sir Rhydychen.

Fe gafodd Amy Garinder-Gibson 29 oed, Jony Cink, 24 oed, Daniel Jeronymides-Norie, 35 oed, a Lewie Chiaramello, 22 oed, eu cyhuddo gan heddlu gwrthderfysgaeth ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Iau.

Dywedodd yr heddlu bod y pedwar wedi eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â chynllwynio i fynd i mewn i le gwaharddedig yn fwriadol at ddiben sy’n niweidiol i ddiogelwch neu fuddiannau’r Deyrnas Unedig, a chynllwynio i gyflawni difrod troseddol.

Roedd difrod o £7 miliwn i ddwy awyren Voyager yn ystod digwyddiad ar 20 Mehefin.

Cafodd dynes 41 oed ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr ac mae wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tan 19 Medi.

Cafodd dyn 23 oed hefyd ei ryddhau heb gyhuddiad.

Ddydd Mercher roedd Aelodau Seneddol yn San Steffan wedi cefnogi cynnig Llywodraeth y DU i wahardd Palestine Action ar sail bod yn yn grŵp terfysgol.

Mae disgwyl i'r cynnig cael ei drafod a bydd pleidlais arno ddydd Iau cyn iddo ddod i rym yn gyfreithiol.

Yn ôl gwefan Palestine Action, maen nhw'n sefydliad o blaid Palestina sy'n tarfu ar y diwydiant arfau yn y Deyrnas Unedig gyda gweithredu uniongyrchol.

Targed allweddol y grŵp ydy ffatrïoedd Prydeinig y gwneuthurwr arfau o Israel, Elbit Systems.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.