Wainwright a Reffell ar y fainc wrth i Gymru enwi eu tîm i herio Japan
Mae Aaron Wainwright a Tommy Reffell ar y fainc wrth i brif hyfforddwr dros dro Cymru, Matt Sherratt, ddewis ei dim i wynebu Japan ddydd Sadwrn.
Bydd Cymru yn dechrau y gêm brawf yn Stadiwm Mikuni World, Kitakyushu gan chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf mewn 18 gornest.
Bydd y gem am 6:00 y bore amser Cymru ar BBC Cymru Wales ac iPlayer.
Y bachwr Dewi Lake fydd yn arwain y tîm – a bydd y blaen-asgellwr ochr agored Josh Macleod yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad ers Cyfres yr Hydref yn 2022.
Alex Mann a’r wythwr Taulupe Faletau fydd yn cadw cwmni iddo’n y rheng ôl.
Nid oedd Sam Costelow a Ben Carter ar gael ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 o ganlyniad i anafiadau – ac mae’r maswr a’r ail reng yn ôl yn y pymtheg cychwynnol. Teddy Williams fydd cyd-glo Carter.
Am y tro cyntaf eleni, Kieran Hardy sydd wedi ei ddewis i ddechrau’n safle’r mewnwr.
Yn ystod Cwpan y Byd 2023 y gwisgodd Johnny Williams grys coch Cymru ddiwethaf, ac fe fydd yn cael ei gyfle i bartneru Ben Thomas yn y canol.
Yn ôl y disgwyl, y bachwr Dewi Lake fydd yn arwain y tîm, gyda Nicky Smith yn dechrau’n safle’r prop pen tynn a Keiron Assiratti’n brop pen rhydd.
Josh Adams a Tom Rogers fydd y ddau asgellwr gyda Blair Murray yn cwblhau’r tri ôl.
Mae Matt Sherratt wedi dewis chwech o flaenwyr a dau olwr ar y fainc.
Os y caiff bachwr Caerdydd, Liam Belcher ei alw oddi ar y fainc – bydd yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru.
Wedi iddo fethu â chwarae unrhyw ran yn y Chwe Gwlad eleni o ganlyniad i anaf – mae’r prop Archie Griffin wedi ei ddewis ymhlith yr eilyddion.
Gareth Thomas yw’r opsiwn i’w alw o’r fainc fel prop pen tynn.
James Ratti, Aaron Wainwright a Tommy Reffell yw’r tri blaenwr arall ymhlith y garfan ar gyfer y Prawf Cyntaf. Rhodri Williams a Joe Roberts yw’r ddau olwr sy’n dechrau ar y fainc.
Dywedodd Matt Sherratt: “Rydyn ni wedi cael paratoadau da iawn. Fe wnaethon ni geisio rhoi cyfle teg i bawb gael eu dewis.
“Un o’r negeseuon allweddol oedd y bydd yn waith i 23 o ddynion. Felly, rydyn ni wedi ceisio lledaenu’r profiad o ran cael rhywfaint o brofiad yn dod oddi ar y fainc.
“Rwy’n credu mai perfformiad 80 munud, y fantais gorfforol a sicrhau ein bod yn trosglwyddo'r hyfforddiant i’r gêm fydd y peth pwysicaf i ni.”
Tîm Cymru i wynebu Japan
15. Blair Murray (Scarlets – 8 cap)
14. Tom Rogers (Scarlets – 9 cap)
13. Johnny Williams (Scarlets – 7 cap)
12. Ben Thomas (Caerdydd– 12 cap)
11. Josh Adams (Caerdydd– 61 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 18 cap)
9. Kieran Hardy (Gweilch – 23 cap)
1. Nicky Smith (Caerlŷr – 54 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 20 cap) –capten
3. Keiron Assiratti (Caerdydd– 14 cap)
4. Ben Carter (Dreigiau – 12 cap)
5. Teddy Williams (Caerdydd– 6 cap)
6. Alex Mann (Caerdydd– 5 cap)
7. Josh Macleod (Scarlets – 2 gap)
8. Taulupe Faletau (Caerdydd– 108 cap)
Eilyddion
16. Liam Belcher (Caerdydd– di-gap)
17. Gareth Thomas (Gweilch – 40 cap)
18. Archie Griffin (Caerfaddon – 6 cap)
19. James Ratti (Gweilch – 1 cap)
20. Aaron Wainwright (Dreigiau – 57 cap)
21. Tommy Reffell (Caerlŷr – 27 cap)
22. Rhodri Williams (Dreigiau – 9 cap)
23. Joe Roberts (Scarlets – 5 cap)
Llun: Huw Evans