Geni wyth babi trwy ddull sy'n cyfuno DNA tri o bobl
Mae wyth o fabanod wedi cael eu geni yn y Deyrnas Unedig drwy ddefnyddio DNA tri o bobl – a hynny er mwyn iddynt osgoi datblygu cyflyrau genetig all fod yn angheuol.
Fel rhan o’r broses, mae meddygon yn cyfuno wy a sberm gan fam a thad a’u cyfuno gydag wy arall gan ail fenyw.
Arbenigwyr yn y DU sydd yn gyfrifol am y wyddoniaeth ac mae’r dull wedi bod yn gyfreithlon yn y wlad ers degawd erbyn hyn.
Ond dyma yw’r tro cyntaf i fabanod gael eu geni heb glefyd mitrocondriaidd ('mitochondrial disease'), nad oes modd gwella ohono, meddai meddygon.
Fe allai’r clefyd achosi anabledd difrifol mewn babanod ac mae rhai yn marw o fewn oriau yn unig o gael eu geni.
Mae’r clefyd fel arfer yn cael ei drosglwyddo i fabanod drwy eu mamau.
Mae plant sy’n cael eu geni drwy gyfuno deunydd genetig tri pherson yn etifeddu y rhan fwyaf o’u DNA o’u rhieni.
Ond mae tua 0.1% yn dod o’r ail fenyw ac mae’r newidiadau yn cael ei etifeddu gan genedlaethau i ddod.
'Dim pwysau'
Mae teuluoedd yr wyth o fabanod wedi penderfynu peidio â siarad yn gyhoeddus am eu profiadau er lles eu preifatrwydd.
Ond maen nhw wedi cyhoeddi datganiadau dienw drwy Ganolfan Ffrwythlondeb Newcastle lle wnaethon nhw dderbyn eu triniaeth.
“Yn dilyn blynyddoedd o ansicrwydd fe wnaeth y driniaeth yma rhoi gobaith i ni – ac yna fe roddodd fabi i ni,” medd mam i ferch fach.
Dywedodd mam wrth fachgen bach bod eu “teulu bach bellach yn gyflawn".
Mae’r pwysau emosiynol oedd ynghlwm gyda chlefyd mitrocondriaidd wedi’i godi ac yn ei le mae “gobaith, llawenydd, a diolchgarwch dwfn,” meddai.
Beth yw'r clefyd?
Mae gan bawb mitocondria yn eu corff – sef strwythurau bach iawn y tu fewn i bob un o’u celloedd.
Maen nhw’n galluogi pobl i anadlu ac maent yn defnyddio ocsigen er mwyn trawsnewid bwyd i egni.
Os nad yw’r mitocondria yn weithredol fe all arwain at brinder egni yn ein cyrff. Fe allai hynny creu problemau gyda’r galon yn ogystal ag achosi niwed i'r ymennydd, trawiadau, dallineb, gwendid cyhyrau a methiant organau.
Mae’r clefyd yn effeithio ar tua un ym mhob 5,000 plentyn yn y DU.
Sut oes modd mynd i'r afael â’r clefyd?
Fe gafodd y wyddoniaeth i fynd i’r afael â’r clefyd ei ddatblygu dros ddeng mlynedd yn ôl ym Mhrifysgol Newcastle.
Yn 2017 fe gafodd gwasanaeth arbenigol ei sefydlu yn y gwasanaeth iechyd. Mae 22 o deuluoedd wedi defnyddio’r broses gyda Chanolfan Ffrwythlondeb Newcastle.
Cafodd pedwar bachgen, pedair merch a phâr o efeilliaid eu geni fel rhan o’r broses. Mae un fam dal yn feichiog ar hyn o bryd.
Mae’r holl fabanod wedi cael eu geni heb glefyd mitrocondriaidd.
Mae rhai wedi cael eu geni gyda phroblemau iechyd eraill ond dyw’r problemau ddim yn gysylltiedig â’r clefyd, medd meddygon.
Roedd ‘na un achos o epilepsi a gliriodd mewn un babi ac mae gan fabi arall rhythm calon annormal sy'n cael ei drin yn llwyddiannus.
Dyw hi ddim yn glir os ydy’r babanod wedi datblygu’r problemau iechyd oherwydd y risgiau ynghlwm ag IVF neu rywbeth i’w wneud a’r dull tri pherson, neu ei fod yn gyd-ddigwyddiad oherwydd eu bod yn cael eu monitro mor agos.