Dirwy o filoedd i ffermwr oedd heb gynnal profion TB

Gwartheg yn pori

Mae ffermwr o Bowys wedi cael gorchymun i dalu miloedd mewn dirwy ar ôl pledio’n euog i chwe throsedd gan gynnwys methu â phrofi gwartheg am TB.

Methodd Alastair Meikle, o Ardd Afon, Tafolwern, Llanbrynmair â mynychu gwrandawiad llys cychwynnol ddydd Mawrth, 24 Mehefin, gan arwain at godi gwarant i'w arestio.

Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Llandrindod ddydd Mawrth a phledio yn euog i'r troseddau gan gael gorchymyn i dalu dros £3,400.

Clywodd y llys fod Meikle wedi methu'n gyson â chydymffurfio â gofynion cyfreithiol, gan gynnwys gwrthod mynediad i'w eiddo ar sawl achlysur a methu â chofrestru gwartheg gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS). 

Er gwaethaf honni nad oedd unrhyw wartheg ar ôl ar y safle, datgelodd ymchwiliadau dilynol fel arall, gyda rhai anifeiliaid wedi'u cofrestru dim ond ar ôl i achos cyfreithiol ddechrau.

Clywodd y llys hefyd mai dim ond ym mis Ebrill a mis Mehefin 2025 y cynhaliwyd profion TB, a ddylai fod wedi'u cwblhau yn 2023, yn dilyn camau gorfodi.

'Peryglu'

Plediodd yn euog i: 

  • Methu â phrofi gwartheg am TB rhwng mis Hydref 2023 a mis Ebrill 2025, yn groes i hysbysiad a gyhoeddwyd o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010
  • Rhwystro archwiliad cyfreithlon drwy wrthod mynediad i swyddogion y cyngor a Heddlu Dyfed-Powys, o dan Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007
  • Methu â chyflwyno cofnodion defaid a geifr fel sy'n ofynnol gan Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015
  • Methu â chyflwyno cofrestr moch o dan Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011
  • Rhwystro arolygydd sy'n gweithredu o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014
  • Methu â chyflwyno cofnodion sy'n ymwneud â stoc drig, hefyd o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014

Cafodd Meikle ddirwy o £2,122 am y chwe throsedd a gorchmynnwyd iddo dalu £500 mewn costau a gordal dioddefwr o £844 - cyfanswm o £3,466, yn daladwy o fewn 28 diwrnod.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol bod yr achos yn tynnu sylw at “bwysigrwydd cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd anifeiliaid.” 

“Roedd gweithredoedd y diffynnydd nid yn unig yn peryglu lles anifeiliaid ond hefyd yn peri risg sylweddol i iechyd y cyhoedd a chyfanrwydd y gadwyn fwyd,” meddai.

"Cymerodd ein Tîm Iechyd Anifeiliaid y troseddau o ddifri yn briodol a gweithredu, gan arwain at yr erlyniad llwyddiannus hwn. Os byddwn yn dod ar draws achosion tebyg yn y dyfodol, byddwn yn erlyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.