Y Gymdeithas Bêl-droed i 'aros am arweiniad pellach' ar wahardd merched traws o gemau merched
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud y byddant yn aros am arweiniad pellach gan y sector chwaraeon cyn gwneud penderfyniad am wahardd merched trawsryweddol rhag chwarae pêl-droed merched.
Fe wnaeth y corff llywodraethu ryddhau datganiad ddydd Iau, yn dilyn penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn gynharach yn y dydd na fyddai merched trawsryweddol yn cael chwarae pêl-droed merched o 1 Mehefin ymlaen.
Daw'r penderfyniad hwnnw wedi dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar 15 Ebrill ar ddiffiniad menyw.
Fe wnaeth barnwyr ddyfarnu fod y termau ‘merched’ a ‘rhyw’ yn y Ddeddf Cydraddoldeb yn cyfeirio at fenywod biolegol a rhywedd fiolegol yn unig.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddydd Iau: “Byddwn yn cymryd yr amser i ystyried dyfarniad y Goruchaf Lys ac aros am arweiniad pellach gan y sector chwaraeon.
"Byddwn yn cymryd y camau sydd eu hangen i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel sy'n cael eu hegluro gan y dyfarniad."
'Anodd'
Yn eu datganiad ddydd Iau dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr y byddan nhw'n gwneud newidiadau "pe bai'n angenrheidiol."
"Mae hwn yn bwnc cymhleth, a'n safbwynt ni erioed ydy, pe bai newid sylweddol yn y gyfraith, gwyddoniaeth, neu weithrediad y polisi mewn pêl-droed ar lawr gwlad, y byddem yn ei adolygu a'i newid pe bai angen.
"Rydym yn deall y bydd hyn yn anodd i bobl sydd eisiau chwarae'r gêm y maen nhw'n ei charu yn y rhyw y maen nhw'n uniaethu gyda, ac rydym yn cysylltu â'r menywod traws cofrestredig sy'n chwarae ar hyn o bryd i esbonio'r newidiadau a sut y gallant barhau i fod yn rhan o'r gêm."
Mae llai na 30 o fenywod traws wedi'u cofrestru ymhlith miliynau o chwaraewyr amatur yn Lloegr.
Nid oes unrhyw fenywod traws cofrestredig yn y gêm broffesiynol ar draws Cymru a Lloegr.
Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr hefyd wahardd menywod traws rhag chwarae mewn gemau menywod.