Achos Porthmadog: Y ffordd y cafodd dyn ei ddal 'ddim yn cael ei dysgu i'r heddlu'
Mae llys wedi clywed nad oedd y ffordd y cafodd dyn ei ddal gerfydd ei wddf mewn gardd ym Mhorthmadog gan blismon yn dechneg a gafodd ei dysgu i'r heddlu.
Mae PC Richard Williams, 42 oed, yn wynebu cyhuddiadau o dagu bwriadol ac achosi niwed corfforol i Steven Clark ar stad Pensyflog yn y dref ar 10 Mai 2023.
Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, clywodd y llys dystiolaeth gan gyn-blismon gyda Heddlu'r Gogledd a oedd yn delio â hyfforddiant diogelwch personol, Valerie Williams-Gray.
Dywedodd Ms Williams-Gray fod chokeholds yn "beryg", ond fe ychwanegodd Ms Williams-Gray y byddai swyddog yn cael gwneud hyn os oedd modd ei gyfiawnhau yn sgil lefel y bygythiad.
Dywedodd yr erlynydd Richard Edwards fod PC Richard Williams wedi bwrw'r dyn naw gwaith ar ôl ei gilydd.
Ychwanegodd Ms Williams-Gray: "Byddwn i wedi disgwyl fod rhywun yn checio ar ôl bob ergyd."
Dywedodd hefyd fod y cyffion ar law chwith Mr Clark yn "rhy uchel" ac y byddai eu troi yn achosi "llawer o boen".
Mae PC Williams yn honni iddo ddefnyddio grym "derbyniol" i arestio Mr Clark, a oedd yn gwrthsefyll.
Mae'r achos yn parhau.