Abersoch: Pobl yn gadael 'carthion dynol' mewn gerddi
Mae pwyllgor wedi clywed cwynion bod ymwelwyr yn gadael "carthion dynol" mewn gerddi a gyrru beiciau dŵr (jet skis) "dan ddylanwad alcohol" ar draeth ger caffi ger Abersoch.
Cafodd yr honiadau hyn eu clywed mewn cyfarfod o is-bwyllgor trwyddedu Cyngor Gwynedd yr wythnos hon wedi i berchnogion busnes gerllaw'r pentref wneud cais am drwydded i werthu alcohol.
Mae Mickey’s Beach Café ym Mwlchtocyn ger Abersoch wedi cael caniatâd i werthu alcohol ar eu safle ger Traeth Machroes, traeth y mae'r pentref yn ei rannu gydag Abersoch gerllaw.
Cafodd pryderon am y cais eu codi gan y cyhoedd a Chyngor Cymuned Llanengan.
Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd perchennog tŷ ger caffi Mickey’s bod pobl yn gadael carthion yn ei finiau.
"Mae'r toiledau cyhoeddus tua chwpl o gannoedd o fetrau o'r caffi," meddai Jeremy Beddows
"Ac mae llawer o bobl, yn eu cyffro ddim yn gwneud y daith 'hir' honno.
"Mae rhan o dir lle mae'r biniau wedi eu gosod hefyd yn cael eu defnyddio fel toiledau.
"Mae pobl yn dod oddi ar y llwybr mewn i'n gardd a gadael carthion dynol, ac mae'n ardal lle mae plant ifanc yn cerdded."
Ychwanegodd ei fod yn "bryderus" am bobl yn yfed alcohol "gyda'u traed yn hongian oddi ar wal 200 troedfedd".
"Mae pobl yn splashio o gwmpas yn y dŵr, ac yn anffodus mae gyrwyr y peiriannau hyn yn yfed alcohol cyn mynd allan i'r môr."
'Llygod mawr'
Dywedodd Cyngor Cymuned Llanengan bod yfed alcohol ar y traeth yn broblem, gan ddweud bod "peiriannau fel cychod dŵr ac alcohol ddim yn mynd gyda'i gilydd".
Ychwanegodd y cyngor bod ganddyn nhw "bryderon mawr" dros y diffyg toiledau a bod gwerthiant alcohol yn gallu arwain at "gynnydd mewn poblogrwydd", gan olygu mwy o draffig ar ffordd gul.
Mae rhai cymdogion lleol wedi gweld "cynnydd mewn llygod mawr" hefyd ac roedd pryder dros wydr wedi torri a phlastig ar lwybrau.
Cafodd y traeth ei ddisgrifio fel un "poblogaidd iawn gyda theuluoedd".
'Gweithio gyda chymdogion'
Dywedodd cynrychiolydd cyfreithiol y caffi, Lisa Gilligan, nad oedd y caffi yn anelu at fod yn “gyrchfan yfed” ac nad oeddent yn gofyn am gerddoriaeth uchel.
Disgrifiodd y “defnydd llwyddiannus” o hysbysiadau digwyddiadau dros dro i werthu alcohol i “arbrofi" gan nodi nad oedd “unrhyw wrthwynebiadau” gan yr heddlu.
Cadarnhaodd fod gan y lleoliad doiled, biniau ac nad oeddent yn bwriadu defnyddio gwydr.
“Rydym yn ceisio gweithio’n galed gyda’r awdurdod lleol o ran yr oriau,” meddai.
“Rydym hefyd eisiau gweithio gyda Mr Beddows,” ychwanegodd, gan gynnwys trafodaethau ynghylch biniau.
Ar ôl ystyried, rhoddodd y pwyllgor ganiatâd i’r perchennog werthu alcohol bob dydd yn ystod tymor yr haf – a hynny gyda rhestr o amodau.
Roedd hyn yn golygu y gallai weini alcohol nes 17:00 (ar y safle ac oddi arno) o ddydd Llun i ddydd Sul.
Roedd angen toiled ar y safle, yn ogystal â “Pholisi Her 25”, staff wedi’u hyfforddi’n llawn cyn cael gwerthu alcohol, dim cerddoriaeth uchel na gwerthiant gwydr a bod rhaid i gwsmeriaid barchu trigolion lleol trwy adael yn dawel a rhaid defnyddio teledu cylch cyfyng ar y safle.