Newyddion S4C

Dyn 56 oed wedi marw ar fferm yn Sir Conwy

Betws yn Rhos

Mae dyn 56 oed wedi marw ar fferm yn Sir Conwy yn ôl yr heddlu. 

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Ychydig cyn 10:00 y bore 'ma, fe gawsom ni wybod am ddigwyddiad ar fferm ym Metws yn Rhos, Abergele.

“Roedd y gwasanaethau brys yn bresennol ac yn anffodus, bu farw dyn 56 oed yn y fan a'r lle. 

“Mae teulu’r dyn a’r crwner wedi cael gwybod."

Ychwanegodd y llu fod y digwyddiad wedi ei gyfeirio at y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.