Newyddion S4C

Llanberis: Troi hen chwarel yn fyd rhithiol tanddwr unigryw

Newyddion S4C
Cware

Mae galw am fwy o atyniadau unigryw wrth i waith i droi chwarel yn fyd rhithiol tanddwr unigryw agosáu at gael ei gwblhau yn Llanberis.

Mae cwmni ScubaScape yn anelu i droi Chwarel Vivian yn Llanberis yn fyd rhithiol unigryw gan ddefnyddio arbenigedd o'r diwydiant olew a nwy.

Yn ôl y cwmni, mi fydd yr atyniad yn creu rhyw ugain o swyddi lleol - a phrentisiaethau i bobl ifanc - a'r nod ydy agor yr hen chwarel ar ei newydd wedd erbyn mis Gorffennaf.

Bydd modd plymio dan y dŵr i weld amgueddfa lechi a'r Ystafell Ddianc gyntaf o'i bath - a'r cyfan, medda'r cwmni, yn gwbl ddiogel ac addas i bawb.

Cafodd y lleoliad ei ffafrio uwchlaw llefydd fel Dubai a'r Unol Daleithiau.

Mae'r dechnoleg mor arloesol, medda'r cwmni, eu bod yn methu datgelu'r holl fanylion gan fod y broses patent i warchod eu syniad yn dal i fynd rhagddo.

Image
Chwarel

'Arbennig a gwahanol'

Dywedodd Katie Gill o ScubaScape wrth raglen Newyddion S4C bod Llanberis wedi cael ei ddewis gan ei fod yn lleoliad "arbennig."

"Mae'n gyffrous achos 'da ni'n agor profiad world first yma," meddai.

"Mae 'na museum o dan y dŵr, ac escape rooms o dan y dŵr, yn defnyddio technoleg world first.

"Y syniad oedd agor yn Dubai neu America, ond i'r cwmni roedd hi'n rili pwysig i agor yn Eryri, yng ngogledd Cymru, achos mae'n lle mor arbennig a gwahanol."

Image
Glyn Price
Glyn Price

Wrth baratoi'r safle, daeth y datblygwyr ar draws hen beirianwaith - ac mae un arlunydd lleol, sydd wedi darlunio'r chwarel dros y blynyddoedd, yn credu bydd rhoi bywyd newydd i'r safle yn codi chwilfrydedd y genhedlaeth iau am eu hanes a'u diwylliant.

"Mae gennon ni'r peiriant Blondin 'ma - mae'n hyfryd bod nhw 'di dod ar ei draws o yn y sied," meddai Glyn Price.

"Mae wedi cael ei orchuddio am yr holl flynyddoedd a byd natur mewn ffordd 'di bod yn tyfu drosto fo.

"Da ni'n gweld sut oedd y winch yn cael ei defnyddio i dynnu'r llechi i fyny ac i lawr y llethrau i lawr yr inclines.

"Mae'r pontio'n bwysig, yn enwedig efo'r cenedlaethau ifancach - bod nhw'n ymwybydol o be sy wedi bod yn mynd ymlaen yn hanesyddol.

"Ma' dod a'r hen a'r newydd, neith o ddod a theimlad o berthyn i'r bobl ifanc, a theimlad o falchder yn yr ardal maen nhw'n byw ynddi."

Image
Dr Rhys ap Gwilym
Dr Rhys ap Gwilym

'Cyfrannu i'r economi'

Mae'r datblygwyr yn gobeithio denu pobl leol yn ogystal ag ymwelwyr, ac un economegydd lleol yn credu bod angen rhagor o atyniadau sy'n gwneud i bobl wario'u harian yn yr ardal.

Dywedodd Dr Rhys ap Gwilym bod nifer o ymwelwyr i Eryri, ond bod angen gwneud mwy i sicrhau eu bod yn cyfrannu i'r economi.

"'Da ni ddim yn brin o ymwelwyr yn yr ardal," meddai.

"'Da ni wedi gweld ers y dynodiad Unesco, bod 'na lawer fwy o bobl yn dod ag ymweld â Chwarel Dinorwig.

"Y broblem ydy bod y rhan fwya ohonyn nhw, siwr o fod yn gyrru draw am y dydd, cerdded am ychydig oriau, a wedyn gyrru ffwrdd heb wneud unrhyw fath o gyfraniad economaidd i'r ardal.  

"Dyma ffordd o ddefnyddio'r chwarel, nid dim ond i ddenu pobl yma, ond i ddenu nhw yma i wneud rhyw fath o gyfraniad economegol i'r ardal hefyd. 

"Yn amlwg 'mond un atyniad bach ydy hwn - 'da ni angen gweld nifer ohonyn nhw, a 'da ni angen bod yn fwy parod i ofyn i ymwelwyr i wneud y fath gyfraniad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.