Newyddion S4C

'Dim yn fywyd o gwbl': Dyn o Wynedd yn trafod ei ddibyniaeth ar gocên am flynyddoedd

Newyddion S4C

'Dim yn fywyd o gwbl': Dyn o Wynedd yn trafod ei ddibyniaeth ar gocên am flynyddoedd

Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn cynnwys trafodaeth am ddefnyddio cyffuriau.

Mae dyn o Wynedd wedi rhannu ei brofiadau gyda Newyddion S4C o fod yn gaeth i gocên am 17 o flynyddoedd.

Yn 35 oed mae Arwel Wyn Griffith o ardal Caernarfon bellach mewn adferiad yn dilyn derbyn cymorth gan ganolfan Tŷ Penrhyn ym Mangor.

Trodd ei ddefnydd achlysurol o gocên ar y dechrau yn hunllef wrth iddo dyfu'n gaeth i'r cyffur, meddai.

“Yn y cychwyn oedd o’n rhoi high i fi a neud i mi deimlo’n confident.

“Oni’n enjoyio fo fatha party drug ond wedyn ar ôl blynyddoedd o gymryd o, o ni jest isho cloi’n hun yn bedroom a cuddiad a cau cyrtans... ofn cysgod fy hun.

“Doedd o ddim y bleser o gwbl. Doeddwn i ddim yn joio fo ond o ni i jest methu stopio cymryd o - oedd y craving jest too much. Doedd o’m yn fywyd o gwbl, doedd gennai’m pres a ddim yn cysgu na’n buta’n iawn.

Image
Arwel Wyn Griffith
Dyw Arwel heb ddefnyddio cocên ers 90 diwrnod bellach.

“Nesh i jest neud y penderfyniad bo' fi isho gwella a dyma fi’n symud mewn i Penrhyn House ac mae’n un o’r petha gorau dwi rioed di neud.

“Dwi’n difaru peidio ‘neud o’n gynt."

'Cymryd dros ein bywydau'

Mae Arwel wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, ag yntau’n dathlu 90 diwrnod heb ddefnyddio cyffuriau.

“Dyma’r hira' dwi 'di bod yn yr 17 mlynedd diwethaf a dwi’n teimlo lot gwell”.

Rhai sy’n gwybod am yr her o roi’r gorau i gyffuriau ac yna aros yn lân ydi Mark ac Elen, sydd wedi gwneud hynny ers dwy flynedd.

“Nath o gymryd drosodd bywydau ni”, meddai Mark.

“Pa bynnag cash oedd ganddo ni, o ni’n mynd allan i nôl cyffuriau, wastio pres ar gyffuriau bob dydd trwy’r dydd."

Yn ôl Elen fe gafodd blynyddoedd o ddibyniaeth ar y cyffur effaith enfawr ar ei hiechyd meddwl.

“Oedd o’n rili anodd, ddim yn cysgu am ddyddiau, yn halucinatio ac o ni’n teimlo’n rili sâl.

“Do'n i'm yn cysgu lot ac o ni fyny am ddyddiau – oedd o’n rili anodd”.

Image
Mark a Elen
Mae Mark a Elen yn helpu eraill ar ôl bod gwella o fod yn ddibynnol ar gyffuriau

Mae’r ddau bellach yn helpu unigolion eraill sy’n ddibynnol ar gyffuriau ac yn dweud bod y cymorth sydd ar gael yn Tŷ Penrhyn yn amhrisiadwy.

"Heb fan hyn ella sa ni ddim efo’n gilydd ond da ni di cal yr ail chance”, meddai Mark.

“O ni’m yn meddwl sw ni’n gallu gwneud o ar y dechrau”, meddai Elen.

“Dwi’n well person wan.. focused ac ma’n amazing."

'Isho fod yn sobor'

Fe ddangosodd ffigyrau newydd gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher bod, ar gyfartaledd, llai yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cyffuriau ers dechrau 2023.

Ond dweud mae Cyfarwyddwr Gweithredol Tŷ Penrhyn, James Deakin, bod mwy yn gofyn am gymorth.

“Y peth haws mewn ffordd ydi rhoi’r gorau i gyffuriau - cadw draw ohonyn nhw wedyn ydi’r peth anodda'”, meddai.

“Mae pawb sy’n dod trwy’r drws yma mae rhaid fod nhw isho fod yn sobor, ond aros felly sy’n anodd ac mae angen mwy o bres i roi mewn i wasanaethau i bobl sy’n adfer”.

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Gamddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth, Peredur Owen Griffiths, nad yw’r ffigyrau diweddaraf yn cynnig darlun teg.

“O’r stwff anecdotal dwi’n ei weld ac o’r bobl dwi’n siarad efo mae pobl dal yn syffro a dal yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio sylweddau i gael allan o broblemau," meddai.

“Mae lot o hwn yn cael ei wreiddio mewn tlodi, mewn angen a mental health.

“Mae’r sector ‘dan bwysau ariannol ac mae’r byd defnydd cyffuriau yn newid."

Buddsoddiad

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn drasiedi. 

"Rydyn ni’n buddsoddi dros £67m i wella gwasanaethau cymorth ar gyfer y rheiny sy’n cael eu heffeithio ac i leihau nifer y marwolaethau yn y dyfodol, gan gynnwys dros £8.8m ar gyfer gwasanaethau cymorth yng Ngogledd Cymru.

"Mae ein dull o fynd i'r afael â chamddefnyddio cyffuriau yn cynnwys atal, triniaeth, a chymorth adfer, gan ganolbwyntio ar wella canlyniadau iechyd a lleihau niwed yn gyffredinol.

“Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r heddlu i leihau'r niwed y mae camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn ei achosi.”

Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan yr erthygl hon, mae cymorth ar gael fan hyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.