Gwrthdrawiad yr A465: Rhyddhau dau ar fechnïaeth wedi marwolaeth dyn 20 oed
Mae dau ddyn a gafodd eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A465 a laddodd dyn 20 oed bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Bu farw'r dyn o Frynmawr yn y fan a'r lle wedi i feic cwad gael ei ddarganfod gan swyddogion yr heddlu ar y ffordd rhwng Rhymni a Dowlais am tua 04.50 bore ddydd Sadwrn.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Fe gafodd dyn 40 oed o Ferthyr ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a gyrru dan ddylanwad alcohol, a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Cafodd ail ddyn 37 oed, hefyd o Ferthyr, ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr.
Maen nhw bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau’r heddlu barhau.
Mae Heddlu Gwent wedi dweud eu bod nhw’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Matthew Edwards ei fod yn awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn teithio ar hyd ffordd yr A465 rhwng 02.00 a 05.00 y bore.
"Ein barn ni o hyd yw y gallai ail gerbyd – BMW gwyn a gafodd ei ddarganfod wedi ei losgi yn ardal Dowlais – fod wedi bod yn rhan o'r gwrthdrawiad," meddai.
“Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y car hwn plîs cysylltwch.”
Mae’r llu yn annog unrhyw un all fod o gymorth, yn enwedig y rheiny all fod a delweddau dashcam, i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500171434.