Newyddion S4C

'Normaleiddio siarad': Seiclo dros 1,000km ar gyfer grŵp iechyd meddwl yn Sir Conwy

Her seiclo Clwb Rygbi Nant Conwy

Wedi colli un o’u chwaraewyr i hunanladdiad y llynedd, mae criw o gefnogwyr a chwaraewyr Clwb Rygbi Nant Conwy wedi seiclo dros 1,000km o Fryste i Barcelona.

Y nod yw codi arian ar gyfer prosiect iechyd meddwl lleol sy’n ceisio torri’r distawrwydd yng nghefn gwlad.

Aeth Gruffudd Ap Gwyndaf, Gari Fôn, Gruff Fôn a Guto Huws ati i gefnogi Dal dy Dir, grŵp sgwrsio a sefydlwyd yn sgil marwolaeth Aaron Newman, 20 oed, ym mis Rhagfyr 2023.

Mae’r prosiect, a redir gan y Parchedig Owain Davies o Lanrwst, yn cynnig lle diogel i chwaraewyr a chefnogwyr siarad am eu hiechyd meddwl yn agored, mewn ffordd sy’n addas i’r gymuned leol.

"Os ydi rhywun yn brifo ar y cae rygbi 'da ni'n edrych ar ôl nhw'n gorfforol," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ond mae'n bwysig i bobl gydnabod hefyd fod arwyddion o iechyd meddwl ddim mor amlwg.

"Mae'r stigma o amgylch iechyd meddwl yn gwella, ond mae 'na dal dipyn o ffordd i fynd."

'Pwysig cael cymorth yn y Gymraeg'

Dywedodd Gruffudd Ap Gwyndaf, 29, o Lanrwst bod y criw eisiau seiclo i Farcelona cyn dathlu'r 30.

Aeth y daith â nhw o Fryste i Portsmouth, yna ar draws y môr i Bilbao ar fferi.

"Y pethau fwyaf heriol oedd y pwysau ar y beic a'r tymheredd yn Sbaen, achos oedd 'na bach o heatwave tra oeddan ni yna," meddai.

"So wbath oeddan ni heb arfer efo oedd y tymheredd a'r pwysau ar y beic, a gorfod neud tua 100km y dydd yn y conditions yna.

"Ond natho ni gyd gallu neud o'n fine, mae un neu ddau ohona ni efo injuries ond dim byd mawr!"

Image
Clwb Rygbi Nant Conwy ar eu ffordd i Barcelona

Fe aeth ymlaen i ddweud bod y daith yn fwy na her gorfforol — roedd yn gyfle i godi arian a gwneud gwahaniaeth.

"Oeddan ni wastad yn meddwl sa fo'n syniad da hel pres tra oeddan ni'n neud yr her," meddai.

"Natho ni benderfynu cyfrannu at 'Dal dy Dir' a Hosbis Dewi Sant yn Llandudno - mae'r ddwy elusen yn cael effaith fawr ar bobl yn yr ardal."

Ychwanegodd: "Oeddan ni definitely efo mwy o motivation i gyrraedd Barcelona yn gwbo bo' pobl wedi sponsro ni."

Mae'r criw bellach yn ôl yng Nghymru ac wedi llwyddo i godi dros £2,000.

Image
Clwb Rygbi Nant Conwy

Yn ôl Gruffudd, sy'n gyn-chwaraewr i'r clwb, mae'n bwysig bod cymorth iechyd meddwl ar gael yn lleol.

"Mae be' mae grŵp 'Dal dy Dir' yn ei neud yn grêt a dwi'n meddwl bo' normaleiddio siarad yn bwysig," meddai.

"Yn enwedig grŵp o hogiau, dydan nhw ddim y bobl orau am siarad am eu teimladau, felly mae'n grêt be' mae Owain a gweddill y grŵp yn ei neud.

"Mae'n bwysig cael cymorth yn lleol yn yr iaith Gymraeg, achos mae'n neud o'n haws iddyn nhw siarad na goro ffonio helpline."

Dros yr haf, bydd grŵp 'Dal dy Dir' yn cynnal bob math o weithgareddau er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth.

Y bwriad yw rhoi hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl i'w haelodau a sefydlu tîm gofal bugeiliol o fewn y clwb — a gwneud yn siŵr nad oes neb arall yn teimlo fel eu bod ar eu pen eu hunain.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.