Rhybudd melyn am dywydd stormus dros Gymru gyfan ddydd Sadwrn
Bydd rhybudd tywydd melyn am fellt a tharanau mewn grym ar gyfer Gymru gyfan ddydd Sadwrn.
Mae'n dod i rym ar benwythnos prysur i wyliau yng Nghymru gan gynnwys Tafwyl yn y brifddinas.
Bydd gwyliau eraill gan gynnwys gŵyl Gottwood ar Ynys Môn, a Sioe Aberystwyth yng Ngheredigion hefyd yn cael eu cynnal dros y penwythnos.
Fe fydd y rhybudd tywydd ddydd Sadwrn yn ymestyn o hanner nos nes 18:00. Fe allai 60-80mm o law syrthio mewn rhai mannau.
Daw hyn wedi rhybudd melyn am fellt a tharanau a glaw trwm i rannau o Gymru ddydd Iau a Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: “Bydd ardaloedd o law trwm a rhai stormydd mellt a tharanau yn symud tua'r gogledd ar draws ardaloedd o Loegr a Chymru yn gynnar ddydd Sadwrn.
"Ar ôl i'r glaw symud i'r gogledd, mae'n debygol y daw cawodydd trwm a stormydd mellt a tharanau pellach yn ei sgil."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymu wedi cyhoeddi rhybud llifogydd 'byddwch yn barod' ar gyfer afonydd Nant-y-fendrod a Nant Brân yn ardal Abertawe.
Bydd y rhybudd tywydd ddydd Sadwrn rhwng hanner nos a 18:00 ac yn effeithio ar Gymru gyfan:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Sir y Fflint
- Torfaen
- Wrecsam
- Ynys Môn