Newyddion S4C

Y Cymry sydd wedi derbyn anrhydedd ar restr pen-blwydd y Brenin

Ann Atkinson

Roedd cyfarwyddwr artistig "yn meddwl ei bod wedi cael dirwy am oryrru" pan dderbyniodd lythyr yn y post yn rhoi gwybod iddi ei bod wedi derbyn MBE.

Mae Ann Atkinson, cyn-gyfarwyddwr artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru wedi cael gwybod ei bod wedi derbyn yr anrhydedd i gyd fynd â phen-blwydd y Brenin.

Hefyd ymhlith y Cymry sydd wedi derbyn anrhydedd yn y rhestr mae'r cyn chwaraewr rygbi'r gynghrair, Billy Boston, sydd wedi'i urddo'n farchog; capten Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022, y chwaraewr bowls a nyrs canser clinigol Anwen Butten; a'r cyflwynydd tywydd, Ruth Taylor, am ei gwasanaethau i ddioddefwyr trais domestig.

Mae Mark Tami, yr AS dros Alun a Glannau Dyfrdwy a'r Athro Brian Morgan, cyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol, hefyd wedi eu hanrhydeddu.

Image
Anwen Butten
Anwen Butten

'Ddim yn gallu credu'

Roedd Ann, sy’n byw ger Corwen, wedi bod yn gyn-gyfarwyddwr artistig ar yr ŵyl am ddau ddegawd cyn camu i lawr ddwy flynedd yn ôl.

"Pan welais y llythyr swyddogol yr olwg roeddwn i'n meddwl fy mod wedi cael dirwy am oryrru neu fy mod i'n cael fy ngalw i wneud gwasanaeth rheithgor.” meddai Ann.

"Pan wnes i ei agor roeddwn i'n methu mynd heibio’r paragraff cyntaf, doeddwn i ddim yn gallu darllen ymhellach.

“Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth.

“Rwy'n dal i binsio fy hun. Roedd yn syndod hyfryd ac yn anrhydedd fawr iawn.

Mae’r MBE y diweddaraf o gyfres hir o anrhydeddau i Ann, sydd wedi cael ei disgrifio fel “grym naturiol" a "chwedl y sîn gerddoriaeth glasurol" yng ngogledd Cymru.

Mae hi wedi canu gyda llawer o brif gwmnïau opera Prydain fel mezzo soprano, gan gynnwys Scottish Opera, Glyndebourne Festival Opera a'r Wexford Festival Opera.

Roedd hi hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Fron rhwng 2002 a 2009, a ddaeth yn enwog fel y "Band Bechgyn Hynaf y Byd", gan ryddhau sawl albwm a chyrraedd brig y siartiau clasurol am 16 wythnos.

Yn 2009, fe gafodd ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, a blwyddyn yn ddiweddarach fe’i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Cafodd ei chydnabod unwaith eto am ei chyfraniad i gerddoriaeth Gymreig yn 2019 pan dderbyniodd Wobr Syr Geraint Evans gan Urdd Cerddoriaeth Cymru yng Nghaerdydd.

Dair blynedd yn ôl cafodd Ann ei gwneud yn Gydymaith er anrhydedd o'r Academi Gerdd Frenhinol i gydnabod ei chyfraniad i gerddoriaeth.

Mae hi’n parhau i fod yn brysur fel cyfarwyddwr cerdd dau gôr meibion, Côr Meibion Trelawnyd a Chôr Meibion Bro Glyndŵr ac mae'n diwtor canu i unawdwyr ifanc.

Pwy arall sydd wedi derbyn anrhydedd?

Image
Luke Littler
Luke Littler

Tu hwnt i Gymru, mae'r cyn chwaraewr pêl-droed David Beckham, yr actor Gary Oldman a chanwr The Who, Roger Daltrey, ymhlith y rheini sydd wedi eu hurddo'n farchogion.

Mae'r seren byd theatr gerddorol, Y Fonesig Elaine Page, wedi ei hanrhydeddu hefyd, yn ogystal â chyflwynwyr Strictly Come Dancing, Tess Daly a Claudia Winkleman, sydd wedi derbyn MBE yr un am eu gwasanaethau i ddarlledu.

Mae Luke Littler a Luke Humphries, y ddau bencampwr y byd dartiau o Loegr, hefyd wedi derbyn MBE yn dilyn eu llwyddiant ysgubol yn y gamp.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.