Lansio gŵyl ffilm ddigidol i ddathlu pum mlynedd ers sefydlu platfform Am
Mae platfform digidol Am yn lansio gŵyl ffilm ddigidol i ddathlu pum mlynedd ers cael ei sefydlu.
Ers dechrau yn 2020 mae'r platfform wedi tyfu i weithio gyda bron i 500 o bartneriaid.
Mae Am yn "ofod digidol dwyieithog ac yn cynnig mynediad agored ar gyfer archwilio cyfoeth diwylliant Cymru".
Mae eu gwefan yn cynnwys fideos cerddoriaeth, digwyddiadau cerddorol a gwybodaeth am y byd theatr a ffilm trwy'r Gymraeg.
Bydd gŵyl ffilm ddigidol newydd 'AmCam' yn "taflu goleuni ar greadigrwydd a gwydnwch mewn cymunedau ledled Cymru".
Yn rhan o'r ŵyl fe fydd pedair ffilm fer newydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf, a hynny ddydd Mercher 18 Mehefin.
Dyma'r ffilmiau fydd yn cael eu dangos:
'Arloesol'
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, bod y platfform wedi cynnig "manteision i bobl creadigol Cymru."
“Hoffwn longyfarch tîm Am ar y garreg filltir drawiadol hon," meddai.
"Rwy’n gyffrous i weld y ffyrdd arloesol y mae wedi tyfu a gwella’n barhaus i ddod yr Amddeinamig, hygyrch a hynod werthfawr ydyw heddiw.
"Heb sôn am y manteision y mae’r platfform yn eu cynnig i bobl creadigol Cymru o ran ei botensial ar gyfer cydweithio a darganfod."
Ychwanegodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr Am: “Gwnaed Am yng Nghymru ar gyfer unrhyw un, unrhyw le sydd eisiau cysylltu â diwylliant Cymru.
"Rydym bob amser wedi anelu at adeiladu platfform sy'n agored i bawb – beth bynnag fo'ch oedran, hunaniaeth neu iaith.
"Rydym yn falch o'r hyn rydym wedi'i adeiladu, ac yn gyffrous am yr hyn sydd nesaf.”